Mae S4C wedi penodi Elen Rhys, cynhyrchydd gyda BBC Cymru Wales, i swydd Comisiynydd Cynnwys Adloniant.
Bydd yn dechrau ar ei gwaith yn S4C ar 2 Chwefror 2015 ac yn olynu Gaynor Davies sydd wedi bod yn y swydd am wyth mlynedd.
Gydag ugain mlynedd o brofiad yn y byd darlledu, mae gan Elen Rhys sgiliau ysgrifennu, cynhyrchu a goruchwylio cynnwys ar draws sawl llwyfan, yn ôl S4C.
Bu hi’n gweithio ym maes adloniant yn ogystal â rhaglenni i blant a phobol ifanc, ac yn ddiweddar bu’n gweithio ar nifer o gynyrchiadau cerddoriaeth y BBC – gan gynnwys BBC Young Musician, Choir of the Year, Canwr y Byd Caerdydd, Proms in the Park 2014, Plant Mewn Angen a rhaglenni rhwydwaith uchafbwyntiau’r Eisteddfod Genedlaethol ar y BBC.
Mae Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at weld Elen Rhys yn “gosod ei marc”:
“Bydd ei phrofiad ym maes cerddoriaeth ac adloniant, yn ogystal â’i sgiliau eang yn y maes darlledu, yn gaffaeliad ac rwy’n edrych ymlaen at ei gweld yn gosod ei marc ar y maes adloniant gyda chynnwys newydd a deinamig ar y sgrin ac ar lwyfannau eraill,” meddai.