Dere Mewn gan Colorama
Mae Colorama wedi rhyddhau casgliad o’u holl ganeuon yn y Gymraeg rhwng 2008 a 2013 ar eu label newydd eu hunain, Agati.

Ar yr albwm Dere Mewn!, sydd ar gael i’w phrynu o heddiw ymlaen, mae 16 o draciau’r band gafodd eu recordio dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn ogystal â chaneuon adnabyddus – fel ‘Dere Mewn’ – mae’r albwm yn cynnwys dwy gân sydd erioed wedi cael eu rhyddhau o’r blaen, ‘Mari Lwyd’ a ‘Rhedeg Bant’.

Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys y gan ‘Hapus?’, sydd wedi’i rhyddhau ar ffurf finyl 12” yn unig yn y gorffennol.

Ffurfiwyd Colorama nôl yn 2007 gan Carwyn Ellis, ac mae’r band wedi chwarae mewn nifer o wyliau cerddorol mawr yn y gorffennol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae modd prynu Dere Mewn! mewn nifer o siopau gan gynnwys Spillers Records, Sadwrn, Palas Print, Wonderfulsound a Piccadilly Records, ac mae hefyd ar gael i’w lawrlwytho o iTunes.