Daniel Johnson
Daniel Johnson fu’n gweld ffilm ddiweddaraf y gyfres Hunger Games …

Er y teitl, does na’m fath o ‘Hunger Games’ yn y ffilm yma, y trydydd o bedwar yn y gyfres.

Yn hytrach, be ‘da ni’n cael ydi rhyw fath o brolog dwy awr o hyd cyn y ffilm olaf, sy’n cael ei rhyddhau y flwyddyn nesaf. Yn wir, dydi’r gyfres ddim rili am y gemau o gwbl.

Mae’r ffilmiau’n fwy fel petai nhw am ryfel, gormes a gwrthdaro yn erbyn y system. Stwff trwm i ffilm sydd hefo cynulleidfa darged eitha’ ifanc.

Mae’n rhaid canmol y penderfyniad i roi’r syniadau hyn fel ffocws y ffilm. Dw i’n siŵr bod ‘na fwy nag un ecsecytif o Hollywood ‘di cael nosweithiau digwsg am y penderfyniad hwnnw … mae’n deg i ddweud na fydd llawer yn ei gymharu â Twilight ar ôl ei weld.

Rhaid canmol hefyd y cyfarwyddwr, Francis Lawrence, am beidio â gwanhau cryfder y themâu, a’i gwneud nhw i deimlo’n addas yn y byd yma o 13 District a’r Capitol hunanol.

Cafodd y ffilm ei disgrifio fel un i oedolion ifanc ac mae Francis Lawrence ‘di llwyddo i wneud y ffilm yn addas i’r gynulleidfa yna’n benodol. Pobl ifanc, ie, ond oedolion sydd yn deall y pethau yma’r un fath.

Lawrence yn serennu

Gan daflu’r gemau o’r neilltu, mae Mockingjay yn dilyn Katniss Everdeen wrth iddi geisio denu cefnogaeth i’r gwrthryfel, trwy’r gelf o greu ffilmiau propaganda.

Wrth i Katniss wneud hyn, mae hefyd yn gorfod delio hefo bod mewn triongl cariadus hefo Gail, a Peeta, sydd yn cael ei ddal yn y Capitol gan yr Arlywydd Snow. Dim rhyfedd ei bod hi’n cael trafferth cysgu.

Mae Jennifer Lawrence (dim perthynas i Francis) yn parhau â’i rôl fel Katniss, ac yn ehangu ar be ‘da ni ‘di gweld ganddi yn y ffilmiau cynt.

Gall yr un peth gael ei ddweud am Josh Hutcherson fel Peeta. Jennifer Lawrence sydd yn dwyn y sioe, yn hudolus wrth iddi frwydro i dderbyn y pwysau o fod yn symbol o’r gwrthryfela.

Mae Mockingjay hefyd yn gweld ymddangosiad olaf Phillip Seymour Hoffman mewn ffilm, ar ôl iddo gymryd gorddos o gyffuriau cyn gorffen ffilmio.

Er nad ydi o ar ei orau yma, mae o dal yn llwyddo i serennu yn y rhan fwyaf o’r golygfeydd y mae o ynddi, gan ddangos faint o dalent mae’r byd wedi colli.

Oes angen dwy ffilm?

Wrth gerdded allan o’r sinema (oedd llawn oedolion, rhaid dweud) glywes i gŵyn fod na’m byd rili ‘di digwydd, a ‘sa chi’n gallu rhoi’r prif rannau mewn i’r ail ran yn hawdd.

Dydw i ddim yn cytuno’n hollol hefo’r farn hon. Er ‘sa hi’n bosib torri rhai darnau, roedd ‘na dal ddigon i gynnal diddordeb y gwylwyr.

Ac os ‘da chi am ei wylio, ‘da chi mwy na thebyg ‘di gweld y lleill ac am weld yr un olaf. Felly, ‘da chi angen gweld hwn er mwyn deall beth sydd am ddigwydd yn yr un nesa’.

Er ei bod hi’n teimlo wedi’i hymestyn braidd, yn 123 o funudau, mae dal yn ffilm aeddfed am wrthryfel a gobaith mewn byd hunllefus.

Hyd yn oed os ‘da chi heb weld y lleill, mae dal yn ffordd dda o dreulio cwpwl o oriau.

Marc – 8/10