Huw Stephens, un o drefnwyr y gwobrau
Joanna Gruesome sydd wedi cipio’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig heno mewn seremoni yng Nghaerdydd.
Fe ddaeth y grŵp i’r brig gyda’u halbwm Weird Sister, gan drechu artistiaid megis Gruff Rhys, y Manic Street Preachers a The Gentle Good.
Cafodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ei sefydlu yn 2011 gan y cyflwynydd radio Huw Stephens a’r hyrwyddwr cerddoriaeth John Rostron.
Georgia Ruth oedd yn fuddugol llynedd gyda’i halbwm Week of Pines, gyda Future Of The Left yn ennill yn 2012 a Gruff Rhys yn ennill yn 2011.
Deuddeg artist oedd ar restr fer y gwobrau eleni – 9Bach (Tincian); Cate Le Bon (Mug Museum); Euros Childs (Situation Comedy); Future Of The Left (How To Stop Your Brain In An Accident); Gruff Rhys (American Interior); Gulp (Season Sun); Joanna Gruesome (Weird Sister); Manic Street Preachers (Futurology); Samoans (Rescue); Slowly Rolling Camera (Slowly Rolling Camera); The Gentle Good (Y Bardd Anfarwol); The People The Poet (The Narrator)