Morgan Griffiths a'r Wonder Box
Mae darn o gelf dra wahanol ar daith o gwmpas Cymru ar hyn o bryd.

Mae’r artist Jo Marsh wedi creu bocs plastig chwe throedfedd, a’i alw yn Wonder Box, gyda’r bwriad o ddangos gwaith gan wahanol artistiaid cyfoes o wahanol ardaloedd o Gymru ynddo.

Gwaith Morgan Griffith o Fethesda sydd wedi ymgartrefu yn y Wonder Bocs ar hyn o bryd, ac mae i’w weld yn Galeri, Caernarfon tan 12 Rhagfyr.

“Gwaith collage a gludwaith ydw i’n ei wneud ac mae’r gwaith penodol yma mewn fframiau ac wedi cael ei lincio gan linellau cotwm a phensil,” meddai Morgan Griffiths fu’n astudio yn Norwich ac yn gweithio yn Llundain a California, cyn dychwelyd i Gymru i redeg cwmni Dyfal Donc gyda’i wraig.

“Mae’r darnau unigol dw i’n eu defnyddio yn gwbl ddi-drefn, dw i’n canolbwyntio ar sut mae’r cyfansoddiad ar y diwedd yn edrych. Does dim thema mewn gwirionedd.

“Dw i’n casglu hen lyfrau ac yn dod a darluniau hollol random at ei gilydd. Dw i’n trio dweud stori, ond does yna ddim diwedd i’r stori. Mae o’i fyny i’r person sy’n edrych ar y gwaith i wneud sens ohono – os ydyn nhw eisiau gwneud hynny.”

‘Ffordd wahanol o feddwl’

Ychwanegodd Morgan Griffith bod y Wonder Box wedi gwneud iddo feddwl mewn ffordd wahanol wrth greu ei waith diweddaraf.

“Mae’n gyfle grêt i gael dangos fy ngwaith mewn gofod mor wahanol – mor fach ac agos at ei gilydd.

“Mae o wedi gwneud i fi feddwl mewn ffordd wahanol, sydd wedi bod yn sialens ddiddorol.”

Bydd gwaith Morgan Griffiths yn cael ei lansio’n swyddogol heno am chwech yn Galeri Caernarfon.