PD James
Mae’r awdures PD James, wnaeth sgwennu mwy na 20 o lyfrau trosedd byd-enwog, wedi marw yn 94 oed.

Roedd hi’n adnabyddus am greu cymeriad y ditectif Adam Dalgliesh ac roedd hi hefyd yn aelod o Dy’r Arglwyddi.

Dywedodd ei hasiant ei bod wedi marw yn ei chartref yn Rhydychen y bore ma.

Bu hi’n gweithio fel gwas sifil am 30 mlynedd cyn penderfynu troi at ysgrifennu yn llawn amser. Yn ddiweddar, fe wnaeth hi ddiweddaru stori Pride And Prejudice ar ffurf y ddrama Death Comes To Pemberley, gafodd ei ffilmio gan y BBC.

Teyrnged

Fe ddywedodd y cyhoeddwyr Faber & Faber ar ôl clywed am ei marwolaeth, ei bod wedi bod yn fraint cyhoeddi ei gwaith:

“Mae heddiw yn ddiwrnod trist iawn i ni. Mae hi’n anodd rhoi mewn geiriau ein tristwch o golli PD James – un o awduron gorau’r byd fu’n cyhoeddi ei gwaith gyda Faber ers 1962.

“Roedd hi’n hynod mewn pob agwedd o’i bywyd, ac yn ysbrydoliaeth a ffrind da i ni gyd.

“Roedd yn fraint cael cyhoeddi ei gwaith.”