Prifysgol Bangor
Mae’r geiriadur Cymraeg-Saesneg yn fyw ar wefan y BBC unwaith eto, diolch i Ganolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor.

Cafodd y geiriadur ei dynnu oddi ar y safle pan roddodd y BBC y gorau i ddefnyddio hen feddalwedd.

Pan gafodd ei dynnu oddi ar y we, mynegodd nifer o bobol eu siom a daeth cais i Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr i’w adfer.

Dewi Bryn Jones a Gruffudd Prys o’r Ganolfan sydd wedi bod wrthi’n adfer y safle sy’n tynnu ar adnoddau Cysgair, geiriadur cyffredinol Prifysgol Bangor a’r Termiadur Addysg.

Mewn datganiad, dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, Dr Llion Jones: “Mewn cyfnod pan y mae Llywodraeth Cymru, cynllunwyr iaith a charedigion y Gymraeg yn gytûn fod angen pwyslais ar gynyddu defnydd o’r Gymraeg, yn gymdeithasol a phroffesiynol, rydym yn gobeithio fod cyhoeddi’r geiriadur hwn yn gyfraniad bach ymarferol at y nod hwnnw.”

Ar ei newydd wedd, enw’r geiriadur newydd yw Geiriadur Bangor, ac fe fydd ar gael trwy fynd i http://geiriadur.bangor.ac.uk.