Elin Wyn Erfyl Jones
Elin Wyn Erfyl Jones oedd yn dyst i’r dathliadau dros y penwythnos ym mhrifddinas yr Almaen …

Mae Berlin wastad wedi bod yn brifddinas egnïol a chyffrous, ond roedd y penwythnos yma yn wirioneddol anhygoel.

Wrth weld y paratoadau ar gyfer ddathliadau dymchwel Wal Berlin 25 mlynedd yn ôl, roedd yna densiwn a bwrlwm arbennig yn adeiladu, a mwy a mwy o bobl yn cyrraedd i weld beth fuasai’r penwythnos hanesyddol yma yn ei gynnig.

Lichtgrenze

Cafodd y syniad o’r Lichtgrenze (neu ffin o olau) ei ddyfeisio gan y brodyr Christopher a Marc Bauder.

O 7-9 Tachwedd cafodd Berlin ei rhannu gan 8,000 o falwnau gwyn disglair ar hyd 15km, o Bornholmer Straße, heibio cofeb y wal, y Reichstag, Checkpoint Charlie, ac yna’n gorffen wrth yr enwog East Side Gallery.


Y Lichtgrenze oedd i'w weld yn rhedeg drwy Berlin
Es i draw at gofeb y wal yn Bernauer Straße i weld y goleuadau yn cael eu troi ymlaen am bump o’r gloch ddydd Gwener. Roedd yn brofiad rhyfedd gan fod y balwnau yn edrych mor brydferth, ond roedd eu hystyr fel rhywbeth sinistr hefyd yn glir.

Ar hyd llwybr y Lichtgrenze roedd mannau gwybodaeth bob 150m fel rhan o’r arddangosfa “One Hundred Berlin Wall Stories – One Hundred Times Berlin” a gafodd ei ddatblygu gan gymdeithas Robert Havemann.

Roedd rhai yn dweud storiâu doniol neu am sefyllfaoedd dydd i ddydd y bobl, a’r lleill yn cofio’r rheiny a gafodd eu lladd wrth geisio croesi o’r Dwyrain i’r Gorllewin.

Merkel a’r gerddoriaeth

Roedd yna nifer o bethau gwahanol ymlaen yn ystod y penwythnos gan gynnwys teithiau tywys, ras redeg o un pen o’r Lichtgrenze i’r llall, a Trabiparade.


Y gerddoriaeth yn y Mauerpark
Un o’r pethau y gwnes i fwynhau fwyaf oedd cyngerdd awyr agored gan aelodau llinynnol Cerddorfa Ieuenctid yr Undeb Ewropeaidd yn Mauerpark.

Fe wnaethon nhw chwarae amrywiaeth mawr o gerddoriaeth o Tango i gerddoriaeth Roegaidd. Gwnaeth pawb fwynhau eu perfformiad o St Paul’s Suite gan Holst yn enwedig, gan ddawnsio wrth yfed eu cwrw Almaeneg.

Ar fore Sul fe es i draw at gofeb y wal unwaith eto, i weld amgueddfa newydd am y wal yn cael ei agor gan Ganghellor yr Almaen, Angela Merkel – profiad anhygoel yn ei hun.

Roedd cymaint o bobl yno, a chafodd Merkel ei chyfarch gan gôr ieuenctid yn canu caneuon traddodiadol Almaeneg.

Roedd y cyhoedd yn sefyll tu ôl i ffensiau metel ac wedi i Merkel adael cafodd y ffensiau eu hagor wrth i swyddog o’r heddlu ddweud “Mae’r ffin wedi’i hagor” ac wedyn chwerthin gan sylwi eironi ei eiriau ei hun.

Roedd gweld y tyllau yng nghofeb y wal wedi’u llenwi â rhosod hefyd yn hynod bwerus.

Draw wrth y Brandenburg


Y gofeb wrth y Wal
Yn y cyfamser roedd gŵyl mawr awyr agored yn cael ei chynnal wrth y Brandenburger Tor (giât Brandenburg) ers dau o’r gloch yn y prynhawn, gan gynnwys Peter Gabriel yn perfformio ‘Heroes’ gan David Bowie sydd yn cael ei gysylltu gyda’r wal yn cael ei dymchwel.

Fues i’n ddigon ffodus i gael lle gwych i weld y balwnau yn cael eu rhyddhau wrth ymyl yr afon Spree wrth y Reichstag.

Cafodd y balwnau cyntaf eu gollwng ychydig wedi saith o’r gloch wrth i gerddorfa’r dref chwarae’r ‘Ode to Joy’ gan Beethoven.

Roedd y teimlad o fod yn rhan o’r dorf yn gwylio’r balwnau’n codi i’r awyr  yn rhyfeddol. Ynghlwm i bob balŵn roedd nodyn gan y person wnaeth ei ryddhau, a dw i’n edrych ymlaen at glywed ble y gwnawn nhw gyrraedd.

Neges i’r byd


Senedd yr Almaen, y Reichstag, wrth yr afon Spree
Mae’n anodd meddwl mai dim ond 25 mlynedd sydd wedi bod ers i wal Berlin gael ei dymchwel. Anodd dychmygu peidio byth gweld aelod o fy nheulu neu ffrindiau eto oherwydd ein bod ni’n byw mewn gwahanol  rannau o’r un ddinas.

Ond alla’i wir ddim credu bod pethau erchyll fel hyn yn dal i ddigwydd heddiw. Dwi’n gobeithio bod pobl  ledled y byd wedi bod yn cymryd sylw o ddathliadau Berlin, a’r Almaen.

Yn ei haraith ynglŷn â’r wal fe gyfeiriodd Merkel at yr Wcráin, Syria ac Irac gan ddweud “Wir können die Dinge zum Guten wenden, das ist die Botschaft des Mauerfalls” – gallwn bob amser newid pethau er gwell, dyna yw gwir neges y wal yn dod i lawr.