Kelly Ann Billen
Mae dynes wedi cael ei charcharu am iddi gynllwynio i ddwyn cynilion dyn 94 oed sy’n dioddef o Ddementia ac yn byw mewn cartref gofal.

Cafodd Kelly Ann Billen o Hirwaun ei dedfrydu i dair blynedd a thri mis yn y carchar yn Llys y Goron Merthyr am ladrata a thwyll.

Clywodd y rheithgor ei bod wedi torri i mewn i dy’r dyn oedrannus yn Hirwaun yn fuan ar ôl iddo gael ei anfon i gartref gofal ym mis Ebrill 2013. Roedd ei gartref wedi cael ei droi ben i waered wrth i Kelly Ann Billen geisio dod o hyd i arian.

Roedd hi hefyd wedi cael mynediad i gyfrif banc y dyn ac wedi dwyn £19,416.10 ohono.

Sylweddolodd nith y dyn beth oedd wedi digwydd pan aeth hi i ymweld â’r tŷ yn Hirwaun ychydig ddyddiau ar ôl y lladrad.

‘Dideimlad’

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gareth Millard: “Roedd hwn yn weithred ddideimlad a chraff a fyddai yn hawdd wedi medru gweld y dyn diniwed yma yn colli ei holl gynilion.

“Oni bai am ei nith a gwaith yr heddlu, mae’n debygol y byddai Billen wedi dianc gyda llawer mwy o arian.

“Mae hi’n haeddu ei chyfnod yn y carchar ac i bobol gael gwybod yn union beth wnaeth hi.”