Peter Wanless, awdur yr adroddiad
Nid oes unrhyw dystiolaeth bod ymdrech gan y Swyddfa Gartref i gelu achosion o gam-drin plant, yn ôl adolygiad blaenllaw i’r modd yr oedd yr adran wedi delio gyda honiadau hanesyddol.
Yn ogystal, nid yw’r adolygiad gan brif weithredwr yr NSPCC, Peter Wanless, a’r bargyfreithiwr Richard Whittam QC, wedi darganfod unrhyw dystiolaeth i gefnogi honiadau bod y grŵp dros hawliau pedoffiliaid, y Paedophile Information Exchange (PIE), wedi cael ei ariannu gan y Swyddfa Gartref.
Cafodd Peter Wanless ei benodi ym mis Gorffennaf i gynnal ymchwiliad ar ôl i adolygiad mewnol ddarganfod bod yr adran wedi “colli neu ddifrodi” 114 o ffeiliau rhwng 1979 a 1999.
Roedd yn cynnwys dogfen a gyflwynwyd gan y diweddar AS Ceidwadol Geoffrey Dickens i’r Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, yr Arglwydd Brittan ym 1983.
Mae’r Arglwydd Brittan wedi gwadu iddo fethu a gweithredu ynglŷn â’r wybodaeth yn y ddogfen a oedd, yn ôl pob tebyg, yn enwi gwleidyddion amlwg a ffigurau eraill a oedd yn rhan o rwydwaith o bedoffiliaid.
‘Anodd profi’
Ond mae adroddiad Peter Wanless wedi dod i’r casgliad ei bod yn “anodd profi unrhyw beth cadarnhaol yn seiliedig ar system gofnodion papur dros 30 mlynedd yn ôl.”
Dywed yr adroddiad nad yw’n bosib “ystyried na gwneud sylw gydag unrhyw hyder” ynglŷn â sut yr oedd yr heddlu a’r awdurdodau wedi delio gydag unrhyw wybodaeth a gafodd ei gyflwyno iddyn nhw ar y pryd.
Nid yw’n bosib dweud a gafodd ffeiliau eu symud neu eu difrodi er mwyn celu honiadau o gam-drin plant gan unigolion oherwydd y system oedd yn bodoli ar y pryd, meddai’r adroddiad.
Ychwanegodd yr adroddiad: “Nid ydym wedi dod o hyd i unrhyw beth penodol sy’n cefnogi’r pryder bod y Swyddfa Gartref wedi methu mewn unrhyw ffordd i adnabod neu gyfeirio honiadau unigol o gam-drin plant i’r heddlu.”