Gary Glitter
Mae Gary Glitter wedi ymddangos yn y llys i wadu cyfres o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn tair merch.
Mae Glitter, 70 oed, o Marylebone yn Llundain yn wynebu 10 cyhuddiad yn ymwneud a throseddau honedig yn y 1970au a’r 1980au cynnar.
Yn Llys y Goron Southwark bore ma fe blediodd y cyn ganwr pop yn ddieuog i’r cyhuddiadau.
Dywedodd y barnwr y bydd Glitter – ei enw iawn yw Paul Gadd – yn sefyll ei brawf ar 12 Ionawr a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.