Tony Blair
Mae’r rheithgor yn yr Old Bailey oedd yn cymryd rhan mewn achos rhannol gyfrinachol wedi cael eu rhyddhau o’u dyletswyddau.

Roedden nhw wedi bod yn ystyried eu dyfarniad yn achos y myfyriwr Erol Incedal, 26, sydd wedi cael ei gyhuddo o dargedu Tony Blair a’i wraig Cherie fel rhan o gynllwyn brawychiaeth.

Mae’n gwadu’r cyhuddiadau.

Mae’r erlyniad wedi dweud y byddan nhw’n ceisio am ail achos.