Scott Williams
Fe fydd Scott Williams yn dychwelyd ar ôl anaf i dîm Cymru fydd yn herio Fiji ddydd Sadwrn, wrth i Warren Gatland newid wyth o’i chwaraewyr.

Mae Gethin Jenkins hefyd yn dychwelyd fel capten mewn rheng flaen newydd fydd yn cynnwys Samson Lee a Scott Baldwin.

Daw Bradley Davies a Luke Charteris i mewn i’r ail reng, gyda Justin Tipuric yn cymryd lle Sam Warburton yn y rheng ôl.

Mae Gatland hefyd wedi dewis y bartneriaeth haneri cyfarwydd o Rhys Priestland a Mike Phillips.

Anafiadau

Gyda Scott Williams yn dychwelyd mae’n golygu bod George North yn symud nôl i’w safle arferol ar yr asgell, gyda Liam Williams yn chwarae fel cefnwr.

Nid yw’r maswr Dan Biggar na’r cefnwr Leigh Halfpenny ar gael i herio Fiji wedi i’r ddau ohonyn nhw gael eu hanafu yn y golled o 28-33 yn erbyn Awstralia yng ngêm agoriadol yr hydref.

James Hook sydd wedi’i alw i’r garfan fel maswr yn lle Biggar, ac mae lle iddo ef ar y fainc.

Ar y fainc hefyd mae prop ifanc y Gweilch Nicky Smith, a fyddai’n ennill ei gap cyntaf dros Gymru petai’n dod i’r cae yn erbyn Fiji.

‘Dim tîm gwan’

Wrth gyhoedi’r tîm, mynnodd prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland nad yw’r wyth newid yn golygu bod y tîm i wynebu Fiji’n wannach na’r pymtheg a gollodd i Awstralia.

“Rydyn ni wedi gwneud nifer o newidiadau, ond rydyn ni’n mynd mas yna gyda beth rydyn ni’n meddwl yw tîm cryf i herio Fiji,” meddai Gatland.

“Mae’r garfan gyfan wedi bod yn gweithio’n galed ac roedden nhw’n gwthio am gyfle’r wythnos diwethaf, felly mae’n gyfle iddyn nhw ddechrau.

“Roedden ni’n bles â’r perfformiad yr wythnos diwethaf ac fe fyddwn ni’n edrych i adeiladu ar hynny a chael y canlyniad rydyn ni’n eisiau y penwythnos yma.

“Rydyn ni wedi gwneud rhai newidiadau, rhai oherwydd anafiadau ond dydyn ni ddim yn teimlo’i fod yn gwanhau’r tîm.”

Tîm Cymru: Liam Williams (Scarlets), Alex Cuthbert (Gleision), Scott Williams (Scarlets), Jamie Roberts (Racing Metro), George North (Northampton), Rhys Priestland (Scarlets), Mike Phillips (Racing Metro), Gethin Jenkins (Gleision – capten), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Bradley Davies (Wasps), Luke Charteris (Racing Metro), Dan Lydiate (dim clwb), Justin Tipuric (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau)

Eilyddion: Emyr Phillips (Scarlets), Nicky Smith (Gweilch), Rhodri Jones (Scarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch), James King (Gweilch), Rhodri Williams (Scarlets), James Hook (Caerloyw), Cory Allen (Gleision).