Ched Evans
Fe fydd cyn-ymosodwr Cymru Ched Evans yn ailddechrau ymarfer â Chlwb Pêl-droed Sheffield United yr wythnos hon, yn ôl adroddiadau.
Cafodd Evans ei ryddhau fis diwethaf ar ôl treulio dwy flynedd a hanner o dan glo am dreisio dynes 19 oed mewn gwesty yn y Rhyl yn 2011.
Ac mae’n ymddangos fod ei gyn-glwb yn barod i roi cyfle arall iddo wrth i Evans geisio ailafael â’i yrfa.
Dychwelyd ‘wythnos yma’
Fe fydd Ched Evans yn dychwelyd i ymarfer â thîm Sheffield United yr wythnos hon, yn ôl BBC Sport, er nad yw penderfyniad wedi’i wneud eto am ddyfodol hir dymor y blaenwr.
Cyn iddo gael ei garcharu yn 2012 roedd Evans yn ymosodwr disglair gyda’r clwb, ac fe aeth rheolwr a chadeirydd Sheffield United i ymweld ag ef tra roedd dan glo.
Fe fyddai dechrau ymarfer â’r clwb yn gam cyntaf tuag at sicrhau cytundeb parhaol, gyda’r rheolwr Nigel Clough yn cael cyfle i weld a yw am i Evans ymuno â’r garfan.
Ond mae Clough wedi dweud yn y gorffennol mai perchnogion y clwb, Y Tywysog Abdullah Bin Musa’ad Bin Abdul Aziz o Saudi Arabia, a Kevin McCabe, fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r carchar fe gyhoeddodd Evans fideo ar ei wefan yn ymddiheuro i’w gariad a’i deulu, a dweud ei fod eisiau ailddechrau ei yrfa bêl-droed.
Ond mynnodd eto ei fod yn ddieuog – mae wastad wedi dweud bod y ddynes wedi rhoi caniatâd iddo gael rhyw ag ef – ac ni gynigiodd ymddiheuriad i’r ferch y cafwyd ef yn euog o’i threisio.
Gwrthwynebiad
Mae nifer o elusennau a mudiadau gwrth-drais wedi beirniadu’r ffaith nad yw Ched Evans wedi cydnabod ei fod yn euog o dreisio, ac mae’n debygol na fyddan nhw’n croesawu’r datblygiad diweddaraf.
Erbyn i Evans adael y carchar roedd bron i 150,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar Sheffield United i beidio ag ailarwyddo’r chwaraewr.
Ond mae pennaeth y Gymdeithas Bêl-droedwyr Proffesiynol, Gordon Taylor, wedi mynnu fod gan Ched Evans yr hawl i ailafael yn ei yrfa wedi iddo gael ei ryddhau.
Ar hyn o bryd mae Evans yn y broses o apelio’r ddedfryd gyda’r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol, ac mae disgwyl i’w achos gael ei glywed yn y misoedd nesaf.