Nico Rosberg
Daliodd Nico Rosberg ymlaen yn Grand Prix Brasil i gipio buddugoliaeth hollbwysig yn y ras rhyngddo ef a Lewis Hamilton am Bencampwriaeth F1 y Byd.

Ar ôl ennill y rhagbrawf llwyddodd Rosberg i ennill y ras ar ôl i Hamilton droelli yn gynnar cyn brwydro nôl i gau’r bwlch.

Oherwydd bod pwyntiau’r ras olaf yn cael eu dyblu, mae’n golygu y byddai Rosberg yn ennill y bencampwriaeth yn Abu Dhabi petai e’n ennill, a Hamilton yn gorffen yn is nac ail.

Trafferth y timau

Yn mynd i mewn i ras olaf ond un y bencampwriaeth yn Interlagos, Brasil, roedd yna ddatblygiadau ymysg y timau yng nghefn y grid.

Cadarnhaodd gweinyddwyr Marussia fod y tîm wedi mynd i’r wal gyda cholled o 200 o swyddi. Er hyn, mae (cyn) lywydd y tîm dal yn hyderus y gall y tîm barhau o dan berchnogion newydd.

Ond dydi gobaith heb ei golli yn nhîm Caterham eto. Maent hwy wedi cymryd y cam anarferol o geisio dorf-ariannu eu ffordd i rasio yn Abu Dhabi.

Rhagbrawf agos

Yn ôl yn y bencampwriaeth, roedd yna wir siawns y byddai’r rheol amhoblogaidd pwyntiau dwbl yn y ras olaf yn Abu Dhabi yn cael effaith.

Gyda Hamilton yn mynd i mewn i’r penwythnos 24 pwynt ar y blaen, o dan amgylchiadau arferol pwynt yn fwy na Rosberg (gan ei fod wedi ennill mwy o rasys) fyddai angen arno i ennill y bencampwriaeth ym Mrasil.

Ond gyda 50 pwynt ar gael tro nesaf, gallai’r system annheg yma newid y sefyllfa.

Nico Rosberg (sydd wedi troi’n ffan o’r syniad pwyntiau dwbl yn ddiweddar!) gipiodd yr amser cyflymaf yn y rhagbrawf o flaen Hamilton, gan osod record newydd yn y broses.

Gyda newidiadau diweddar mewn teiars ac injans, ceir o 2004 fel rheol sydd fel arfer yn dal recordiau F1.

Ond roedd tyrbos eleni yn gwneud i fyny am y golled arferol y byddai’r ceir yn dioddef o fod ar uchder oddeutu 800m.

Massa oedd y gorau o’r gweddill yn y rhagbrawf o flaen ei dorf gartref.

Gyda record sâl Rosberg o drosglwyddo pôl i fuddugoliaeth, roedd Hamilton yn hyderus y gall o gael y gorau o’i gyd-yrrwr.

Lewis yn llithro

Ar ôl i’r timau a’r cefnogwyr gwyno bod dewis diweddar Pirelli o gyfansoddion teiars wedi bod yn rhy ddiogel, roedd rhan fwyaf o’r gyrwyr a gychwynnodd ar y teiars meddal i mewn i’w newid ar ôl dim ond saith lap o un o draciau byrraf y calendr.

Roedd hi’n stop arbennig o ddrud i Massa wrth iddo gael cosb pum eiliad am fynd yn rhy gyflym yn y pits.

Roedd Nico Hulkenberg yn un o’r gyrwyr ar strategaeth wahanol, ac fe symudodd i’r blaen wrth i eraill bitio. Mae’r Almaenwr yn dipyn o arbenigwr yn Interlagos, gan arwain y ras a chymryd pôl yma yn y gorffennol.

Roedd y ras yn dechrau cael teimlad tebyg i Austin iddi, gyda Hamilton yn agos iawn tu ôl i Rosberg, fel petai o yn aros am yr amser gorau i ymosod.

Fe lwyddodd Rosberg i’w ddal yn ôl tan ei ail stop. Ond roedd hi’n edrych bod Hamilton yn gwneud y mwyaf o’i lapiau ychwanegol cyn ei ail stop yntau, wrth roi amseroedd cyflym dros ben i mewn.

Tan iddo wthio’n rhy galed a gadael y cwrs hynny yw. Llwyddodd Lewis i ddal gafael ar y car a dim ond colli rhai eiliadau (yn hytrach na chael damwain), ond roedd hyn yn ddigon i Rosberg gadw’r arweinyddiaeth. Amser i Hamilton ddechrau torri’r bwlch 7.4 eiliad i lawr.

Rosberg yn ennill

Roedd hi’n ddiwrnod drwg yn y pits i dîm Williams, wrth i Bottas y tro yma gael trafferth wrth iddo golli amser wrth i’r mecanwyr orfod tynhau ei wregys iddo. I orffen pethau i ffwrdd, yn ei drydydd stop fe ffwndrodd Massa a mynd i mewn i focs McLaren!

Ymhen 20 lap, roedd bwlch Rosberg wedi diflannu ac roedd hi’n bryd gweld a allai wneud be’ fethodd o yn America: cadw Hamilton tu ôl iddo.

Pob lap roedd Hamilton ar gynffon Rosberg drwy’r sectorau cyflym gyntaf ac olaf, ond roedd Rosberg yn gwneud digon drwy’r ail sector i greu bwlch.

Fe weithiodd y dacteg yna i Rosberg, a gipiodd y fflag o 1.5 eiliad. Roedd y dorf wrth eu bodd i weld Massa’n drydydd er ei drafferthion.

Button oedd yn bedwerydd, dal yn ansicr os mai’r ras nesaf fydd ei olaf. Vettel (Ferrari yn 2015?) oedd yn bumed gan guro Alonso (Ferrari 2014), gyda’r ddau bwynt o wahaniaeth rhwng y safleoedd yn ddigon i wahanu’r ddau oedd gynt yn gyfartal yn y tabl.

Cawn weld beth fydd yn digwydd yn Abu Dhabi, ond o leiaf mae’r canlyniad yma yn cadw’r bwlch rhwng Hamilton a Rosberg o dan 25 pwynt, fel bod parhad y bencampwriaeth o gwmpas strydoedd Yas Marina yn un teilwng.