Jonathan Williams yn debyg o fethu gêm Cymru yng Ngwlad Belg
Dyma’r penwythnos y mae rheolwr Cymru Chris Coleman yn ei gasáu fwyaf – mae wedi enwi’i garfan ar gyfer y gêm ryngwladol nesaf, ac yna’n gorfod cuddio tu ôl i’r soffa am ddeuddydd yn gweddïo nad oes anafiadau.

Yn ffodus iddo fe mae’n ymddangos bod Gareth Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen ac Ashley Williams i gyd wedi llwyddo i oroesi’u gemau nhw gyda’u clybiau heb fawr o ddifrod.

Dim cystal lwc gyda Jonathan Williams, fodd bynnag, wrth i chwaraewr canol cae Ipswich ddychwelyd ar ôl anaf cyn cael ei gicio’n ddu las unwaith eto, a gorfod gadael y cael mewn dagrau ar ôl tacl warthus gan amddiffynnwr Watford.

Cafodd Ipswich saith o giciau rhydd oherwydd troseddau ar Joniesta, gyda dwy o’r rheiny’n arwain at gardiau melyn i chwaraewyr Watford – a dyw hi ddim yn debygol nawr y bydd Williams yn teithio gyda gweddill carfan Cymru i Frwsel.

La Liga a’r Uwch Gynghrair

Y newyddion gorau i Gymru, fodd bynnag, oedd bod Gareth Bale wedi chwarae 84 munud yn weddol ddiffwdan wrth i Real Madrid roi crasfa i Rayo Vallecano o 5-1 yn La Liga.

Sgoriodd Bale gôl agoriadol Real, cyn neidio ar ei awyren breifat i hedfan nôl i Gaerdydd ac ymuno â’i dîm cenedlaethol yr wythnos hon.

Paul Dummett oedd un o’r Cymry gafodd gêm dda yn yr Uwch Gynghrair, gan chwarae fel amddiffynnwr canol am unwaith wrth i Newcastle gadw llechen lan arall a threchu West Brom i ffwrdd o gartref o 2-0.

Chwaraeodd Ashley Williams a Neil Taylor ran bwysig yn amddiffyn Abertawe wrth iddyn nhw ddal ymlaen i fuddugoliaeth wych o 2-1 dros Arsenal, gydag Aaron Ramsey ar y cae am 79 munud i’r gwrthwynebwyr.

Cafodd Joe Ledley gêm lawn i Crystal Palace wrth iddyn nhw golli 1-0 i Manchester United tra bod Andy King, fydd ddim yng ngharfan Cymru oherwydd gwaharddiad, wedi cael 76 munud i Gaerlŷr.

Cadwodd West Ham lechen lân gyda James Collins yn chwarae gêm lawn unwaith eto, ond cafodd James Chester ei eilyddio dros Hull ar ôl awr wrth iddyn nhw geisio achub canlyniad yn Burnley.

Cafodd Joe Allen ugain munud fel eilydd i Lerpwl wrth iddyn nhw golli 2-1 i Chelsea, ond er gwaethaf perfformiad trychinebus arall gan amddiffyn Spurs chafodd Ben Davies ddim gêm unwaith eto.

Y Bencampwriaeth

Un o’r Cymry gafodd ddim eu henwi yng ngharfan Coleman oedd ymosodwr Bolton Craig Davies, ac fe ddangosodd e fod dal ganddo lygad am gôl wrth benio’n daclus i’r rhwyd i roi ei dîm 2-0 ar y blaen yn erbyn Wigan.

Gorffennodd y gêm yn 3-1 i dîm Davies, gydag Emyr Huws yn cael ei eilyddio ar ôl 58 munud i’r gwrthwynebwyr.

Un arall o’r Cymry oedd ddim yn y garfan a lwyddodd i sgorio dros y penwythnos oedd Joel Lynch, a beniodd Huddersfield yn gyfartal yn erbyn Fulham cyn i dîm George Williams sgorio dwy gôl hwyr i’w hennill hi 3-1.

Yng ngweddill y gynghrair fe chwaraeodd Chris Gunter, Hal Robson-Kanu, Sam Ricketts, Lee Evans, Dave Cotterill, Danny Gabbidon, Craig Morgan a Morgan Fox.

Chwaraeodd Adam Matthews 78 munud i Celtic wrth iddyn nhw drechu Aberdeen i symud i frig Uwch Gynghrair yr Alban am y tro cyntaf y tymor hwn.

Ac yng Nghynghrair Un fe chwaraeodd James Wilson, Gwion Edwards, Joe Walsh, Lewin Nyatanga, Josh Pritchard a Tom Bradshaw – gyda Bradshaw’n rhwydo o’r smotyn eto am ei seithfed gôl o’r tymor.

Seren yr wythnos – Gareth Bale. Angen iddo ddod drwy gêm lawn heb anafu, ond fe lwyddodd i roi perfformiad gwych hefyd.

Siom yr wythnos – Jonathan Williams. Mae’n bryd i ddyfarnwyr stopio caniatáu timau rhag ei gicio drwy gydol gêm.