Yn ôl adroddiadau, bu Boris Johnson mewn parti gyda staff Rhif 10 Downing Street yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf ym mis Mai 2020.

Mae’r Guardian a’r Independent yn adrodd fod Boris Johnson wedi casglu â chriw o staff am bymtheg munud ar 15 Mai 2020, ar ôl cynhadledd i’r wasg.

Cafodd y digwyddiad honedig ei gynnal yr un diwrnod ag y gwnaeth Matt Hancock, a oedd yn Ysgrifennydd Iechyd ar y pryd, annog pobol i “plîs gadw at y rheolau”, yn ôl y papurau newydd.

Ar 15 Mai llynedd, roedd gan bobol hawl i gyfarfod un person o aelwyd wahanol y tu allan, mewn lle cyhoeddus, ac roedd rhaid cadw pellter o ddwy fedr.

Yn ôl yr adroddiadau, roedd tua 20 person yno, ac roedden nhw’n yfed alcohol ac yn bwyta pizza.

Roedd rhai ohonyn nhw mewn swyddfeydd tu mewn i Rif 10 ac eraill yn yr ardd, yn ôl y sôn. Yn ôl yr honiadau, roedden nhw’n yfed nes yn hwyr yn y nos.

Dywedodd Boris Johnson wrth un o’r bobol yn y parti eu bod nhw’n haeddu diod am “ymladd yn ôl” yn erbyn y feirws.

Wrth ymateb i gwestiwn ynghylch ei sylwadau a’r parti, dywedodd llefarydd wrth y papurau: “Ym misoedd yr haf mae staff Downing Street yn defnyddio’r ardd ar gyfer rhai cyfarfodydd yn rheolaidd.

“Ar 15 Mai 2020, fe wnaeth y Prif Weinidog gynnal cyfres o gyfarfodydd drwy gydol y prynhawn, gan gynnwys un sydyn gyda’r Ysgrifennydd Iechyd a Gofal ar y pryd a’i dîm yn yr ardd wedi cynhadledd i’r wasg.

“Fe aeth y Prif Weinidog i’w gartref yn fuan wedi 7yh. Fe wnaeth nifer fechan o staff oedd yn gorfod gweithio aros yn yr ardd yn Downing Street am ran o’r prynhawn a’r gyda’r nos.”

Y ddwy flynedd ddiwethaf yn brawf bod y wladwriaeth Brydeinig “wedi torri tu hwnt i’w thrwsio”

“Bydd mwy o bobl nag erioed yn edrych ar lanast San Steffan a meddwl – ai dyma’r gorau allwn ni ei wneud?” meddai Liz Saville-Roberts

Cyhuddo Boris Johnson o fod yn ddi-hid ynghylch rheolau Covid yn dilyn parti

Fe ddaeth i’r amlwg fod prif weinidog Prydain wedi cymryd rhan yn y cwis dridiau cyn parti dadleuol sy’n destun ymchwiliad