David Dimbleby fydd yn llywio'r ddadl (llun: Jeff Overs/BBC/PA)
Heno fydd cyfle olaf y pleidiau llai i wneud sŵn mawr, yn ôl Iolo Cheung …
Er gwaethaf fformat trwsgl dadleuon teledu’r etholiad eleni, does dim amheuaeth eu bod nhw’n un o’r testunau trafod mawr unwaith eto.
Gwyliodd 7.4m o bobl y ddadl saith arweinydd ar 2 Ebrill, cynulleidfa oedd dwy filiwn yn llai na’r rheiny wyliodd ddadleuon 2010 pan oedden nhw’n rhywbeth newydd.
Ond does dim amheuaeth eu bod nhw wedi ychwanegu dimensiwn newydd i’r ymgyrch y tro hwn, nid yn annhebyg i’r Cleggmania welsom ni bum mlynedd yn ôl.
Y tro hwn y pleidiau bach elwodd fwyaf o’r sylw, gyda Nicola Sturgeon yn cipio’r penawdau gyda’i pherfformiad hi a Leanne Wood hefyd yn denu clod am ei hymosodiad hi ar Nigel Farage.
Cymharwch y sylw mae’r SNP, y Blaid Werdd a Phlaid Cymru wedi ei gael dros yr wythnosau diwethaf gyda 2010, ac mae natur wahanol etholiad 2015 yn dod yn amlwg.
Rydyn ni wedi gweld pa effaith all cyhoeddusrwydd ei gael wrth weld poblogrwydd UKIP yn cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, er bod llawer o bobl yn anghytuno â’u polisïau.
Mae’r SNP eisoes ymhell ar y blaen ym mholau’r Alban, ac fe gafwyd awgrym posib bod Plaid Cymru wedi elwa ychydig o fod yn rhan o’r dadleuon teledu yn y pôl Cymreig diwethaf – er bod dim arwydd o ymchwydd newydd yng nghefnogaeth y Blaid Werdd.
Heno fe fydd y pleidiau llai yn cael ail gyfle i wneud eu marc mewn dadl deledu Brydeinig – ac fe fydd y pwysau arnyn nhw i geisio gwneud y mwyaf o’u cyfle mawr olaf ar y platfform.
Gwrthbleidiau’n cecru
Y pum arweinydd fydd yn rhan o’r ddadl deledu ar y BBC heno fydd Natalie Bennett (Y Blaid Werdd), Nigel Farage (UKIP), Ed Miliband (Llafur), Nicola Sturgeon (SNP), a Leanne Wood (Plaid Cymru).
Ond fydd arweinydd y Ceidwadwyr David Cameron nac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg yn cymryd rhan, gan olygu bod neb yno i ddadlau ar ran y llywodraeth bresennol.
Dadl y gwrthbleidiau fydd hon, felly, gyda phawb yn cytuno ymysg ei gilydd ar ffaeleddau’r llywodraeth Glymblaid.
Beth fydd yn ddiddorol o ran y tair plaid adain chwith lai (SNP, Gwyrddion a Phlaid) fydd gweld pa mor ymosodol ydyn nhw yn erbyn Ed Miliband yn hytrach na Nigel Farage.
UKIP yw’r cocyn hitio hawdd iddyn nhw gan eu bod nhw’n anghytuno ar gymaint o bethau (ac fe fydd Leanne Wood yn ymwybodol iawn o’r sylw gafodd hi am feirniadu Nigel Farage y tro diwethaf).
Ond mewn gwirionedd ceisio dwyn pleidleisiau oddi ar y Blaid Lafur fydd y merched ar y podiwm, ac felly’r peth doeth iddyn nhw fyddai targedu Ed Miliband.
Heb Cameron a Clegg ar y podiwm, fe fydd hi’n haws i’r pleidiau chwith llai bortreadu Llafur fel y blaid fydd yn parhau gyda pholisïau llymder ac amddiffyn buddiannau elit San Steffan.
Ond y peryg wrth wneud hynny yw bod y tair plaid yn gwybod eu bod nhw angen cydweithio gydag Ed Miliband os ydyn nhw eisiau cael unrhyw ddylanwad yn y senedd nesaf.
Pwysleisio gormod o wahaniaethau, ac fe fydd pobl yn dechrau cwestiynu sut yn y byd fyddai disgwyl iddyn nhw a Llafur gydweithio mewn llywodraeth.
Miliband y Prif Weinidog?
Yn y ddadl ddiwethaf fe geisiodd David Cameron gadw allan o lawer o’r ffraeo, y dacteg o geisio ymddangos fel y prif weinidog pwyllog sy’n codi uwchlaw’r cecru.
Fe allai Ed Miliband geisio gwneud rhywbeth tebyg heno – wedi’r cyfan, dydi o ddim eisiau cael ei weld ar yr un lefel ag arweinwyr y gwrthbleidiau eraill, ond yn hytrach fel gwir ymgeisydd am swydd Rhif 10 Downing Street.
Fe fydd o hefyd yn awyddus i roi rhywfaint o bellter rhyngddo ef a’r pleidiau chwith llai, mewn ymateb i’r ymosodiadau arno o’r wasg asgell dde ei fod yn barod i neidio mewn i’r gwely â’r SNP.
Ac fe fydd Ed Miliband yn awyddus i geisio rhoi pwysau ar Nigel Farage a dwyn pleidleisiau oddi arno fo hefyd, yn enwedig wrth sôn am bolisïau llym ei blaid ar fewnfudo.
Ar y cyfan fodd bynnag, mae’n reit bosib mai cadw’i bellter oddi wrth UKIP fydd Ed Miliband yn ei wneud, yn enwedig gyda thair arweinydd o’r chwith yn barod i neidio ar unrhyw gyfle i bwysleisio’u tebygrwydd.
Ond fel yr arweinydd ar y tir canol gwleidyddol yn y ddadl hon, bydd gan yr arweinydd Llafur fantais fawr hefyd.
Bydd Ed Miliband yn awyddus i bwysleisio unrhyw bolisïau’r pleidiau eraill sydd yn swnio’n rhy bell i’r chwith neu dde, gan wneud i’w blaid ef swnio fel yr un cymedrol yn y broses.
Mae’r pwysau ar y pleidiau eraill i geisio newid y gêm, fel petai – felly os ydi’r polau rhywbeth tebyg ar ôl y ddadl i beth ydyn nhw nawr, fydd Llafur ddim yn poeni’n ormodol.
Cyfle i UKIP
Mae UKIP wedi bod yn llithro yn y polau yn ddiweddar, ac mae awgrymiadau o gecru mewnol yn dechrau dod i’r wyneb.
Bydd Nigel Farage hefyd yn teimlo’r pwysau felly i geisio gwneud argraff all aildanio ymgyrch etholiadol ei blaid yn yr wythnosau nesaf.
Ac mae’n reit bosib mai fo fydd yn ‘ennill’ y ddadl heno yn y polau, yn enwedig gan nad yw’r Ceidwadwyr yno i sefyll ar ei draed.
Fo fydd yr unig lais o’r adain dde ar y podiwm, ac fe fydd hynny’n ei helpu i bwysleisio pa mor wahanol ydi o i’r holl ymgeiswyr eraill.
Dyw ei steil na’i neges yn plesio pawb – a dweud y gwir, mae’n digio llawer – ond mae’n gwybod pwy ydi ei gynulleidfa ac yn gwybod beth sydd yn eu tanio nhw.
Hon fydd cyfle mawr olaf pob un o’r arweinwyr yma heblaw am Ed Miliband i herio’i gilydd ar y teledu, felly peidiwch synnu os ydyn nhw’n trio rhywbeth annisgwyl i geisio creu argraff.
Bydd y ddadl deledu yn cael ei darlledu ar BBC1 rhwng 8.00 o’r gloch a 9.30 o’r gloch heno.