Karen Buckley
Mae apêl i gefnogi teulu’r fyfyrwraig goll Karen Buckley wedi casglu £30,000 mewn 24 awr.
Y bore ‘ma, cyhoeddwyd bod dyn 21 oed wedi cael ei arestio ar ôl i’r heddlu ddarganfod gweddillion dynol ar fferm ar gyrion Glasgow. Bydd yn ymddangos yn y llys yfory.
Fe ddiflannodd Karen Buckley, 24, yn oriau man fore dydd Sul ar ôl iddi fod mewn clwb nos yn Glasgow.
Cafwyd hyd i’w bag llaw ym Mharc Dawsholm ddydd Mawrth ac yna fe ddechreuodd yr heddlu chwilio fferm High Craigton yng ngogledd y ddinas.
Nid yw’r gweddillion dynol y cafwyd hyd iddyn nhw ar fferm yng ngogledd Glasgow wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol hyd yn hyn ond mae teulu Karen Buckley wedi cael eu hysbysu, meddai Heddlu’r Alban.
Fe ddywedodd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon: “Mae fy meddyliau heddiw gyda theulu a ffrindiau Karen Buckley.”