Carwyn Jones ac Owen Smith yn lansio'r maniffesto yn Llandudno heddiw
Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi mynnu na all y wlad “fforddio pum mlynedd arall o’r Torïaid”, wrth lansio maniffesto Llafur Cymru heddiw.
Dywedodd Carwyn Jones y byddai’r maniffesto, sydd yn addo £375m o gyllid ychwanegol i Gymru, yn gwneud “gwahaniaeth mawr” i gymunedau ar “hyd a lled Cymru”.
Ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi beirniadu’r cynlluniau, gan gyhuddo Llafur o “chwarae Russian Roulette ag economi Prydain”.
‘Gall Prydain fod yn well’
Yn y maniffesto, sydd yn cynnwys y slogan ‘Gall Prydain fod yn well’, mae Llafur Cymru yn dweud y byddan nhw’n hyfforddi 1,000 o ddoctoriaid a nyrsys newydd a dyblu eu darpariaeth o ofal plant am ddim.
Dywedodd y blaid y byddan nhw hefyd yn codi’r isafswm cyflog, cael gwared â’r dreth ystafell wely a chytundebau heb oriau, a datganoli rhai pwerau ynni, trafnidiaeth a heddlu i Gaerdydd.
“Mae hwn yn gynllun y medra i weithio gyda fel Prif Weinidog,” meddai Carwyn Jones.
“Dw i eisiau rhoi’r pum mlynedd diwethaf o Lywodraeth Glymblaid yn gadarn yn y llyfrau hanes a rhywbeth na fyddem yn gorfod dioddef am y bum mlynedd nesaf.”
“Y neges ry’n ni’n rhoi yw un o obaith. Neges y Torïaid yw pum mlynedd o’r un fath sef llymder heb olau ar ddiwedd y twnnel. Dydyn ni methu fforddio pum mlynedd arall o’r Torïaid, yn enwedig y toriadau.”
Ymrwymo i doriadau
Pan ofynnwyd i Carwyn Jones ynglŷn ag ymrwymiad ei blaid i doriadau o £30 biliwn fel y Torïaid, mynnodd y byddai Cymru yn well o dan lywodraeth Lafur.
“Ry’n ni’n gwybod o’r maniffesto y bydd hwn yn werth £375 miliwn yn ychwanegol i Gymru pob blwyddyn trwy lawr Barnett a’r dreth ar blasdai,” mynnodd Carwyn Jones.
“Mae hwn llawer yn well i’r ffordd mae Cymru’n cael ei gyllido na beth fyddai’r Torïaid yn ei wneud.”
‘Gamblo â’r economi’
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol fodd bynnag wedi beirniadu cynlluniau maniffesto Llafur, gan eu cyhuddo o gamblo â dyfodol yr economi.
“Wrth beidio â gosod amserlen benodol ynglŷn â phryd maen nhw am gydbwyso’r llyfrau, mae Llafur yn chwarae Russian Roulette ag economi Prydain,” meddai ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn sedd Canol Caerdydd, Jenny Willott.
“Sut bynnag maen nhw’n ei gyflwyno, byddai eu cynlluniau nhw yn golygu benthyg £70bn yn fwy nag sydd angen ac yn golygu bod llymder yn parhau am flynyddoedd i ddod.”
Dywedodd hefyd nad oedd y blaid yn mynd yn ddigon pell i weithredu argymhellion Comisiwn Silk ar ddatganoli pwerau i Gymru.
“Unwaith eto mae Llafur wedi methu â chytuno i weithredu argymhellion Comisiwn Silk yn llawn,” ychwanegodd Jenny Willott.
“Maen nhw wedi methu â gwneud hynny heddiw. Unwaith eto, fe fyddai penderfyniad Llafur i ddewis a dethol pan mae’n dod at ddatganoli yn gadael Cymru ar ôl.”