Y DJ Neil Fox
Mae’r DJ Neil Fox wedi gwadu cyhuddiadau o droseddau rhyw yn erbyn chwech o ferched dros gyfnod o 20 mlynedd.
Roedd y cyflwynydd radio, sy’n cael ei adnabod fel Dr Fox, wedi ymddangos yn Llys Ynadon Westminster yn Llundain bore ma gan gadarnhau ei enw a’i gyfeiriad a chyflwyno ple.
Mae tri o’r naw cyhuddiad yn ymwneud a phlant a honnir eu bod wedi digwydd rhwng 1991 a 1996.
Honnir bod yr ymosodiadau honedig eraill ar dair o’r merched wedi digwydd rhwng 2003 a 2014.
Mae un ddynes yn honni ei bod wedi dioddef ymosodiadau niferus yn stiwidios Capital Radio yn Llundain.
Mae Fox, 53 oed, wedi ei gyhuddo o saith cyhuddiad o ymosod yn anweddus a dau gyhuddiad o gyffwrdd yn rhywiol yn erbyn chwe dynes a oedd rhwng 14 a 36 oed ar y pryd.
Cafodd Fox, o Fulham yn ne orllewin Llundain ei arestio y tro cyntaf ym mis Medi’r llynedd ac eto ym mis Rhagfyr a mis Mawrth.