Llandudno
Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos fod gwyliau’r Pasg eleni wedi bod yn llwyddiannus i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

O’r 400 o fusnesau a holwyd yn yr arolwg monitro busnesau gan Lywodraeth Cymru, dywedodd 82% iddynt weld mwy neu’r un faint  o ymwelwyr nag yn yr un cyfnod y llynedd.

Yn dilyn gwyliau’r Pasg, dywedodd 96% o fusnesau twristiaeth eu bod yn teimlo’n ffyddiog iawn ynghylch y tymor i ddod.

‘Dibynnu ar y tywydd’

Cafodd tref lan y môr Llandudno benwythnos prysur iawn dros y Pasg, yn ôl Geoff Lofthouse o westy’r Imperial:  “Cawsom Basg gwych, ystafelloedd llawn a nifer dda yn galw o’r stryd.

“Ac i goroni’r cyfan, roedd gennym briodas ar ddydd Llun y Pasg.  Diolch i fisoedd Mawrth ac Ebrill ardderchog ar ôl Ionawr a Chwefror eithaf gwachul, rydym yn ôl ar y trywydd cywir.

“Gan edrych ymhellach i’r dyfodol, mae archebion a digwyddiadau yn argoeli’n dda ond mae’r cyfan yn dibynnu ar y tywydd sy’n gallu cael cymaint ag 20% o effaith ar werthiant.”

‘Hyderus’

Meddai’r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: “Mae’r  Pasg eleni wedi bod yn ddechrau da i dymor y diwydiant twristiaeth yng Nghymru ac mae pawb yn hyderus ynghylch gweddill y tymor.

“Mae’r diwydiant mewn sefyllfa gref a bydd gweithgareddau Croeso Cymru yn parhau i roi Cymru ym mlaen meddyliau pobl ein marchnadoedd targed wrth iddyn nhw drefnu’u gwyliau ar gyfer y misoedd i ddod.

“Dengys  y ffigurau diweddaraf bod yr ymgyrch ‘Does unman yn debyg i gartref’ yn esgor ar ganlyniadau da a’i bod wedi sbarduno £238 miliwn yn ychwanegol o wariant yn economi Cymru.  Gwelwyd 26% o gynnydd yn nifer y defnyddwyr unigryw â’r wefan visitwales.com  yn ystod 2014 o’i gymharu â 2013 ac mae gan Croeso Cymru hanner miliwn o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.”

Ymweliadau undydd

Mae’r ffigurau Defnydd Ystafelloedd Gwestai dros 2014 yn gyfan yn dangos cynnydd o hyd at 3 pwynt canrannol (i 64%) o’u cymharu â 2013 (61%), gyda ffigurau ar gyfer dau fis cyntaf 2015 hefyd yn dangos cynnydd ers y llynedd.

Mae Arolwg Ymweliadau Un-dydd Prydain Fawr yn dangos y bu 90 miliwn o ymweliadau undydd gan drigolion o Brydain â chyrchfannau yng Nghymru yn Ionawr-Rhagfyr 2014, gan sbarduno gwariant o £2,677 miliwn.  Mae nifer y teithiau wedi cynyddu 1% o’i gymharu â 2013.  Mae ymweliadau undydd yn argoeli’n dda hefyd ar ddechrau 2015 gyda niferoedd cyn uched ag oeddynt yn 2014 a gwariant ar i fyny ers llynedd.

Caiff ffigurau blwyddyn gyfan 2014 Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr, sy’n cynnwys ymweliadau tros nos, eu cyhoeddi ar 12 Mai.