Catrin Williams
Catrin Williams sydd yn pendroni pwy fydd yn ennill y dydd ar drefniant y dadleuon teledu …
Ers yr etholiad cyffredinol diwethaf mae ‘na gryn dipyn o bwyslais wedi bod ar berthynas gwleidyddion gyda’r cyfryngau a’r ddelwedd y maent yn ei bortreadu o ddydd i ddydd.
Cynhaliwyd dadl fyw gyntaf rhwng arweinydd y tair prif blaid ar y teledu nôl yn etholiad 2010. Gydag etholiad cyffredinol arall ar y ffordd, mae’r cwestiwn o ddadl fyw arall wedi codi ac mae llawer iawn o sylw wedi cael ei roi i’r mater yn y cyfryngau.
Sydd yn peri i ni ofyn y cwestiwn – pwy sydd wir yn gwisgo’r trowsus yn y berthynas rhwng y cyfryngau a’r gwleidyddion?
Apelio at y cyhoedd
Honnai’r Telegraph fod cynnal dadleuon ar y teledu yn fodd o helpu’r cyhoedd i allu dod i well penderfyniad ynglŷn â phwy ddylai gael eu pleidlais.
Y ddadl yw bod hyn yn ychwanegu ychydig o gynnwrf, ac felly mewn rhyw ffordd yn ychwanegu at fomentwm yr etholiad.
I ryw raddau dwi yn cytuno efo hyn, oherwydd mae’n bwysig ceisio gwneud rhywbeth i drio cael mwy a mwy o bobol allan i bleidleisio ac i newid agweddau tuag at wleidyddiaeth.
Ond tydi’r bobol hynny sydd â dim diddordeb mewn gwleidyddiaeth ddim yn mynd i wylio’r rhaglen ac felly mewn gwirionedd tydi momentwm ddim yn codi – ac efallai ei fod bron yn well cael yr arweinyddion hynny allan yn trafod wyneb yn wyneb gyda’r cyhoedd.
Beth mae’r cyfryngau wedi’i ddweud?
Mae’r BBC ac ITV wedi cyhoeddi y byddant yn cynnal dadl rhwng arweinwyr saith o bleidiau Prydain, gan gynnwys Plaid Cymru, y Blaid Werdd a’r SNP, gyda Sky a Channel 4 yn cynnal y drydedd ddadl rhwng David Cameron ac Ed Miliband yn unig.
Er bygythiadau David Cameron i gymryd rhan mewn un ohonyn nhw’n unig, ar hyn o bryd mae’r darlledwyr dal yn mynnu na fyddan nhw’n newid y cynlluniau hynny.
Oes rhaid cymryd rhan?
Er bod y sianeli teledu wedi cyhoeddi hyn, does dim gorfodaeth ar yr un arweinydd i gymryd rhan.
Caiff gwahoddiad ffurfiol o’r cynnig ei anfon at yr arweinyddion, ac os ydynt yn gwrthod, yna fe ai’r ddadl yn ei flaen beth bynnag.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod yn fodlon cymryd rhan mewn un ddadl yn unig gyda’r chwe arweinydd arall yn ystod wythnos 23 Mawrth.
Ond tydi hynny ddim yn ddigon i’r cyfryngau. Mae’r cyfryngau mwya’ sydyn yn credu ei fod yn angenrheidiol cynnal dwy ddadl rhwng saith arweinydd cyn yr etholiad.
Pam fod hyn yn angenrheidiol wrth ystyried ei fod wedi cymryd ymgyrch i sicrhau fod pleidiau eraill heblaw am y ‘tair prif blaid’ yn cael eu cynnwys yn y dadleuon yma?
Onid yw hyn yn enghraifft o’r cyfryngau yn ceisio defnyddio eu pŵer er mwyn gorfodi gwleidyddion i neud fel maen nhw eisiau, ac i droi etholiad ym Mhrydain yn debycach fyth i etholiad yn yr Unol Daleithiau?
Ai democratiaeth yw pleidleisio am blaid ar sail perfformiad yr arweinydd mewn dadl ac felly yn eithrio ei pholisïau a’i chredoau?
Ed Miliband
Wrth gwrs, mae Ed Miliband wedi manteisio ar y cyfle yma i feirniadu Cameron yn llym, gan honni ei fod yn rhedeg i ffwrdd mewn ofn, a bod angen iddo wynebu’r arweinwyr eraill.
Ond fe aeth Miliband gam ymhellach gan gyhoeddi y byddai llywodraeth Lafur yn ei gwneud yn gyfraith i gynnal dadleuon byw ar y teledu yn ystod ymgyrchoedd etholiadau cyffredinol.
Eto, dw i’n gofyn y cwestiwn a yw hyn yn ddiffiniad o ddemocratiaeth? Cael gwrando ar arweinyddion yn dadlau ymysg ei gilydd rhyw ddwywaith cyn mynd ati i fwrw pleidlais mewn etholiad?
Oni fyddai’n well cael rhywbeth cyson yn lle hyn? Yn enwedig wrth ystyried bod llawer o’r cyhoedd yn credu fod gwleidyddion dim ond yn ymddangos adeg etholiad – pan maen nhw eisiau rhywbeth.
Newid barn
Tydi’r holl ddadlau sydd wedi codi rhwng Cameron a Miliband, ac i ryw raddau Nick Clegg, yn gwneud dim i geisio newid barn y cyhoedd ynglŷn â gwleidyddion a gwleidyddiaeth.
Yn enwedig wrth ystyried fod etholiad cyffredinol ‘chydig dros 50 diwrnod i ffwrdd, fe fyddai’n well o lawer i’r gwleidyddion yma droi eu sylw at y problemau sydd yn wynebu Prydain – nid cega ymysg ei gilydd ynglŷn ag ymddangos ar y teledu neu ddim!