Alan Bannister
Mae golffiwr a oedd wedi hawlio £26,000 o fudd-daliadau anabledd drwy dwyll wedi cael ei garcharu am chwe mis.
Roedd Alan Bannister, 56 oed o’r Barri, wedi hawlio’r Lwfans Byw i’r Anabl am wyth mlynedd ar ôl dweud nad oedd yn medru cerdded mwy na 50 llath a’i fod yn ei chael hi’n anodd codi ei freichiau uwchben ei ysgwyddau.
Yn ogystal â chael budd-dal, sydd fel arfer yn cael ei roi i bobl sy’n methu cerdded, roedd Bannister hefyd wedi cael car.
Ond clywodd Llys y Goron Caerdydd fis diwethaf bod y cyn-bencampwr golff, sy’n dioddef o grydcymalau, wedi cael ei ffilmio’n gudd yn chwarae ac yn cerdded o amgylch cwrs golff 18 twll gan dynnu troli gydag o.
Fis diwethaf, cafwyd Bannister yn euog o gyhuddiad o hawlio’r arian drwy dwyll.
Wrth ei garcharu dywedodd y barnwr David Miller bod gweithredoedd Bannister wedi bod yn “haerllug” a’u bod wedi parhau am wyth mlynedd.
Yn dilyn yr achos, dywedodd Adrian Landeg, rheolwr yr adran sy’n ymchwilio i achosion o dwyll ar ran yr Adran Waith a Phensiynau bod y ddedfryd yn anfon “neges glir”.
Dywedodd y bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal er mwyn ceisio cael yr arian sydd wedi ei dalu i Bannister yn ôl.