Mae hi wedi dod i’r amlwg bod miloedd o sgyrsiau preifat rhwng pobol gyffredin yn cael eu clywed gan ysbiwyr yng nghanolfan glustfeinio GCHQ Llywodraeth Prydain o ddydd i ddydd.
Mewn adroddiad, fe ddywedodd aelodau o Bwyllgor Gwybodaeth Diogelwch y Llywodraeth bod yr ysbiwyr yn casglu “nifer fawr o eitemau” i wrando arnyn nhw a bod pob un ohonyn nhw wedi cael eu targedu mewn rhyw ffordd.
Oherwydd y nifer fawr o eitemau, mae’n amhosib osgoi clustfeinio ar rai sgyrsiau diniwed rhwng pobol gyffredin, yn ôl y pwyllgor – sydd hefyd yn mynnu mai dim ond sgyrsiau rhwng unigolion sy’n cael eu hamau o droseddau y mae’r ysbiwyr yn eu dewis yn fwriadol.
Mae’r adroddiad yn dweud bod angen cryfhau’r rheolau er mwyn cadw golwg ar bwerau asiantaethau gwybodaeth fel GCHQ, MI5 a MI6 i wrando ar sgyrsiau preifat gan nad yw’r system bresennol “ yn dryloyw.”
Gwybodaeth gyhoeddus
Ond nid yw hyn, yn ôl y pwyllgor, yn golygu bod yr asiantaethau yn ceisio twyllo yn fwriadol.
“Er ein bod yn derbyn bod rhaid iddyn nhw weithio’n gyfrinachol os am ein gwarchod rhag y rhai sy’n cynllwynio i achosi niwed i ni, mae’n rhaid i’r Llywodraeth wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd pan mae’n ddiogel i wneud hynny,” meddai Hazel Blears ar ran y pwyllgor.
Daw’r adroddiad ar ol i Edward Snowden, swyddog cudd-wybodaeth yn yr Unol Daleithiau, ddatgelu yn 2013 bod GCHQ a’r NSA yn darllen nifer o negeseuon ffôn a rhai dros y we gan bobol gyffredin.