Nick Clegg
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi gwadu unrhyw gamweinyddu gan Aelodau Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yn dilyn honiadau am gyfraniad anghyfreithlon i goffrau’r blaid.
Mae Ibrahim Taguri wedi ymddiswyddo fel ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Brent Central yn dilyn honiadau yn y Daily Telegraph.
Mae’r papur yn honni ei fod wedi dweud wrth newyddiadurwr cudd y gallai dderbyn cyfraniadau drwy aelodau o’r teulu a newid dyddiadau ar sieciau fel na fyddan nhw’n ymddangos ar gofrestrau cyhoeddus.
Honnir hefyd bod Ibrahim Taguri wedi dweud wrth y newyddiadurwr, oedd yn cymryd arno ei fod yn ŵr busnes cyfoethog o India, y gallai cyfraniadau mawr i’r blaid roi mynediad i aelodau blaenllaw o’r blaid.
Roedd wedi cael ei gyflwyno i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander ar ôl rhoi siec o £7,500 i’r blaid gan roi addewid y byddai’n rhoi llawer mwy.
Dywedodd Nick Clegg ar radio LBC bore ma nad oedd Danny Alexander wedi gwneud unrhyw beth o’i le.
Ychwanegodd: “O ran Ibrahim Taguri, does dim siec wedi cael ei dderbyn gan y Democratiaid Rhyddfrydol. Petai ni wedi derbyn y siec dan sylw, wrth gwrs fe fyddwn ni wedi craffu arno’n ofalus.”
Dywedodd bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwahodd y Comisiwn Etholiadol i edrych ar y broses sydd gan y blaid i graffu ar gyfraniadau a bod y Comisiwn wedi dweud eu bod yn “foddhaol”.
Mae Ibrahim Taguri wedi gwadu ei fod wedi gwneud unrhyw beth o’i le a’i fod yn hapus i gydweithio gydag unrhyw ymchwiliad.