Mae’r gwasanaethau brys yn ymateb i wrthdrawiad rhwng dau gar ar yr A494 ger Yr Wyddgrug y bore ma.
Cafodd yr heddlu eu galw am 10:10 i ardal Gwernymynydd ac mae’r gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaeth tan ar y safle hefyd.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu nad oedd unrhyw un wedi eu hanafu.
Mae disgwyl y bydd oedi yn yr ardal wrth i’r ceir gael eu clirio.