Jeremy Clarkson
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi amddiffyn Jeremy Clarkson ar ôl i’r BBC  ei wahardd o’i waith yn dilyn “ffrwgwd” gyda chynhyrchydd mewn gwesty yn swydd Efrog.

Mewn cyfweliad gyda BBC Midlands Today dywedodd David Cameron:  “Dwi ddim yn gwybod beth yn union ddigwyddodd. Mae’n byw yn fy etholaeth ac mae’n ffrind imi.

“Dwi’n credu ei fod yn difaru beth ddigwyddodd. Yr unig beth dwi’n ddweud – mae’n diddanu llawer o bobl a byddai fy mhlant wedi torri eu calonnau os na fydd Top Gear yn cael ei darlledu.

“Dwi’n gobeithio y gall hyn gael ei ddatrys achos mae’n rhaglen wych ac mae’n dalent aruthrol.”

Honnir bod Jeremy Clarkson wedi bod mewn ffrwgwd gyda’r  cynhyrchydd, Oisin Tymon, gan nad oedd y cyflwynydd wedi gallu archebu stecen mewn gwesty yn Swydd Efrog gyda’r nos, lle’r oedd y criw ffilmio yn aros.

Mae dros 650,000 o bobl ar draws y byd wedi arwyddo deiseb ar y we yn galw ar y BBC i ail-ystyried.