Steve Strange
Fe fydd angladd y canwr Steve Strange yn cael ei gynnal ym Mhorthcawl heddiw.

Bu farw Steve Strange fis diwethaf ar ôl cael trawiad ar y galon tra ar wyliau yn yr Aifft.

Roedd yn adnabyddus am ei ganeuon Fade to Grey a In The Year 2525 gyda’r grwp Visage yn yr 80au.

Mae disgwyl i rai o sêr y byd pop fod yn bresennol yn y gwasanaeth yn yr eglwys ym Mhorthcawl gan gynnwys aelodau o Spandau Ballet, Duran Duran a’r canwr Boy George.

Dywedodd un o’i gyfeillion, Jayce Lewis, y bydd yr angladd yn un cyhoeddus gyda digwyddiad yn cael ei gynnal ar ol yr angladd yn y Hi-Tide Inn.