Dewi Alter
Dewi Alter sydd yn pendroni a oes lle i blaid newydd ymysg y newid gwleidyddol presennol …
Ar hyn o bryd rydym yng nghyfnod o baratoi ar gyfer yr etholiad cyffredinol Prydeinig ar 7 Mai 2015, dim ond ychydig dros bum mis i ffwrdd.
Mae’r hinsawdd wleidyddol wedi newid llawer ers i’r Ceidwadwyr gael y mwyaf o seddi allan o’r pleidiau, ond nid mwyafrif fel y cyfryw, yn etholiadau San Steffan nôl yn 2010.
Ers yr etholiad diwethaf mae Llafur wedi cael arweinydd newydd, Ed Miliband, roedd yr Alban yn agos iawn at adael y Deyrnas Unedig, ac mae UKIP wedi ennill etholiad Ewropeaidd (dim ond traen o’r etholwyr bleidleisiodd, ond ennill y gwnaethant serch hynny).
Ers yr etholiad hefyd mae’r Tywysog William wedi priodi a chael plentyn. Mae’n bwysig ystyried felly fod Prydain wedi newid llawer dros y pedair blynedd diwethaf.
Pa siawns i UKIP?
Ond pwy sydd yn mynd i ennill yr etholiad ym mis Mai? Ai un o’r ddwy brif blaid, Llafur neu’r Ceidwadwyr? Nhw yw’r pleidiau sydd â mwyaf o gefnogaeth yn y polau piniwn diweddar, gyda Llafur ar 35% a’r Ceidwadwyr mymryn tu ôl ar 32%.
Mae hynny i’w ddisgwyl wrth edrych yn ôl ar hanes y wlad – David Lloyd George oedd y prif weinidog diwethaf i beidio â chynrychioli’r un o’r ddwy blaid honno (ac wrth gwrs, y Rhyddfrydwr oedd yr unig Brif Weinidog oedd ddim yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf).
Beth am bleidiau eraill y wlad? Un o’r pleidiau mwyaf adnabyddus ar hyd o bryd yw plaid Nigel Farage, UKIP, oedd yn fuddugol yn etholiadau Ewrop mis Mai.
Ar hyn o bryd dim ond rhyw 14% o’r etholwyr sydd yn eu cefnogi, yn ôl y polau piniwn, ond mae eu cefnogaeth wedi tyfu.
Yn yr etholiad cyffredinol yn 2010 dim ond 3% o’r bleidlais genedlaethol enillodd y blaid. Mae’u cefnogaeth bellach wedi treblu.
Mae’n bosib y gallai’r blaid fod yn ddylanwadol iawn o 8 Mai ymlaen, os nad yn cystadlu am le yn rhif 10 Downing Street, yn sicr fel plaid allai ddylanwadu ar natur y Llywodraeth nesaf.
Fodd bynnag, er eu bod nhw ar 14% yn y polau, yr amcangyfrif yw mai dim ond tua 8 o’r 650 sedd yn San Steffan y bydden nhw’n ennill – mae Farage a’i griw felly yn bell iawn o gystadlu dim ots faint o sŵn y maen nhw’n ei wneud.
Y Gwyrddion yn plesio
Mae’r Blaid Werdd wedi bod yn denu sylw yn ddiweddar, am y rhesymau cywir.
Nid ydynt yn y papurau yn aml yn ymddangos yn hiliol fel aelodau UKIP, na chwaith yn hyll wrth fwyta brechdan bacwn fel Ed Miliband druan, na chwaeth yn cweryla yn y blaid fel y gwnaeth y Ceidwadwyr Theresa May a Michael Gove.
Nid oes gwleidyddion amhoblogaidd yn eu plith chwaith. Ond dydyn nhw ddim yn ymddangos yn gyson yn y cyfryngau oherwydd eu delwedd dda a diniwed.
Serch hynny, mae’n ddiddorol gweld canlyniad pôl ar wefan Vote for Policies, ble mae pobl yn gallu pleidleisio dros bolisïau heb wybod i ba blaid y maen nhw’n perthyn.
Y Blaid Werdd enillodd y bleidlais gyda dros chwarter o’r pleidleisiau, er mai dim ond tua 5% yw eu cefnogaeth yn y polau piniwn.
Sŵn yn y cyfryngau
Ai felly cystadleuaeth i wneud y mwyaf o sŵn â phosib sydd yn hollbresennol yn y cyfryngau?
Wrth gwrs ni phleidleisiodd pawb ar y wefan, ond mae’n awgrymu beth yw un o ffaeleddau gwleidyddiaeth gyfoes – y gystadleuaeth sain.
Roedd naw categori polisi ar y wefan – mewn pedwar ohonynt roedd y Blaid Werdd yn gyntaf ac mewn pedwar arall nhw oedd yn ail.
Tybed felly os fydd y bobl yma’n pleidleisio dros y Blaid Werdd? Os felly, fe fyddech chi’n disgwyl y bydd ganddyn nhw siawns eitha’ teg o wneud yn dda ym mis Mai.
Y ffordd orau i gael cyhoeddusrwydd yw ymddangos ar y dadleuon teledu. A fydd lle i’r Blaid Werdd?
Gyda sicrwydd y bydd Llafur, Y Ceidwadwyr, UKIP a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dadlau, oes lle am blaid ychwanegol?
Wn i ddim ar hyn o bryd dros bwy y byddwn i’n pleidleisio. Beth bynnag fydd yn digwydd, bydd canlyniad etholiad mis Mai yn ddiddorol.