Bydd pobol sengl yn elwa o gynnydd o 2.5% yn y pensiwn gwladol o 2015, sef £2.85 yr wythnos, yn ôl y Gweinidog Pensiynau Steve Webb.
O dan y drefn newydd, bydd pensiynau gwladol yn codi’n unol â chyflogau, prisiau neu 2.5% – p’un bynnag sydd uchaf.
Dywedodd Steve Webb y byddai pobol sengl yn derbyn £115.95 yn sgil y newidiadau.
Mae’r cyhoeddiad hefyd yn golygu y bydd y pensiwn gwladol yn cyfateb i oddeutu 18% o gyflogau ar gyfartaledd, sydd yn uwch nag y bu ers dau ddegawd.
Ychwanegodd Webb fod y cynllun newydd yn golygu y bydd pobol sy’n derbyn pensiwn gwladol yn derbyn oddeutu £560 yn fwy na phe bai’n ddibynnol ar gyflogau’n unig.
Bydd unigolion sy’n talu mwy oherwydd anabledd yn derbyn 1.2% yn fwy o bensiwn o 2015 ymlaen, yn ychwanegol at gredyd pensiwn a thaliadau eraill y mae hawl ganddyn nhw i’w derbyn.
Dywedodd Steve Webb: “Ar adeg pan fo cyllid y wlad yn parhau o dan bwysau, bydd y Llywodraeth yn gwario £2.5 biliwn ychwanegol yn 2015/16.
“Bydd oddeutu £2 biliwn – 80% o’r arian – yn cael ei wario ar bensiynau gwladol.
“Bydd oddeutu £300 miliwn yn cael ei wario ar bobol ag anableddau a’u gofalwyr… a bron i £200 miliwn yn cael ei wario ar bobol sy’n methu gweithio oherwydd salwch neu ddiweithdra.”
Mae’r Blaid Lafur yn dweud bod y drefn newydd yn golygu mai’r bobol fwyaf anghenus fydd yn talu’r pris.