Wylfa, Ynys Mon
Mae 10% yn fwy o bobol yn cefnogi codi atomfeydd niwclear newydd nag yr oedd yn eu cefnogi ddegawd yn ôl, yn ôl ymchwil newydd.
Dywed Cymdeithas y Diwydiant Niwclear fod 45% o’r rhai y gwnaethon nhw eu holi o blaid codi atomfeydd newydd erbyn hyn, tra bod 20% yn unig yn eu gwrthwynebu.
Dywedodd dau draean o’r rhai sy’n cefnogi atomfeydd y bydden nhw’n sicrhau bod gwledydd y DU yn fwy hunangynhaliol ac yn llai dibynnol ar nwy a glo.
Mae cynlluniau ar y gweill yng ngogledd Cymru i godi atomfa Wylfa B er mwyn dechrau cynhyrchu trydan erbyn 2020.
Dywed cwmni Horizon, sy’n gobeithio codi’r safle newydd, y byddai’r prosiect yn creu hyd at 8,500 o swyddi, ac 20% o’r swyddi’n cael eu llenwi gan bobol leol.
Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas y Diwydiant Niwclear, Keith Parker: “Mae’r DU ar fin dechrau rhaglen fawr o adeiladu gorsafoedd niwclear newydd ac mae’n rhaid i’r diwydiant sicrhau bod pobol yn ymddiried yn y sector ac yn ei ddeall.
“Mae’r DU mewn sefyllfa unigryw o ran cael cefnogaeth drawsbleidiol i adeiladu atomfeydd niwclear newydd i ddisodli ffatrïoedd cyfredol sydd ar fin dod i ben, yn ogystal â chael cefnogaeth gref gan y cyhoedd.”