Mark Pritchard AS
Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol, Mark Pritchard, wedi cael ei arestio a’i ryddhau ar fechnïaeth mewn cysylltiad â honiad o dreisio yn Llundain.
Fe aeth yr AS o’i wirfodd i orsaf heddlu Holborn nos Fawrth, 2 Rhagfyr.
Cafodd ei arestio a’i ryddhau ar fechnïaeth bedair awr yn ddiweddarach.
Mae Mark Pritchard wedi bod yn AS dros ardal Wrekin yn Sir Amwythig ers 2005.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Scotland Yard: “Gallwn gadarnhau bod dyn 48 oed wedi dod i swyddfa heddlu yng ngogledd Llundain ar ddydd Mawrth, 2 Rhagfyr. Cafodd ei arestio yn dilyn honiad o dreisio yng nghanol Llundain.”
Fe fydd yn gorfod dychwelyd i orsaf yr heddlu ar ddechrau Ionawr 2015 tra bod yr heddlu yn cynnal ymchwiliadau pellach.