Darren Hughes
Mae disgwyl i grwner gyhoeddi rheithfarn naratif mewn cwest i farwolaeth dau ddyn o dde Cymru fu farw ar ôl derbyn arennau oedd wedi’i heintio.
Derbyniodd Darren Hughes, 42, a Robert Stuart, 67, arennau oedd wedi’u heintio â llyngyr yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd y llynedd.
Roedd y ddau ddyn wedi derbyn aren yr un gan ddyn alcoholig 39 oed oedd wedi marw o lid yr ymennydd.
Roedd meddygon yn hyderus y gallen nhw fod wedi rheoli’r haint ond roedd y llid yr ymennydd wedi’i achosi gan lyngyr nad oedd modd ei drin. Dywedodd yr ysbyty nad oedd modd iddyn nhw wybod fod y rhoddwr wedi marw o ganlyniad i gael ei heintio â llyngyr.
Bydd y crwner yn amlinellu ei benderfyniad y prynhawn yma.
Caniatâd
Mae teuluoedd y ddau ddyn yn dweud y byddai Darren Hughes a Robert Stuart dal yn fyw pe baen nhw wedi cael gwybod y ffeithiau i gyd cyn cytuno i gael y trawsblaniadau.
Roedd saith ysbyty wedi gwrthod yr arennau gan y rhoddwr oherwydd amheuaeth ynghylch yr hyn oedd wedi achosi ei farwolaeth ac oherwydd ei alcoholiaeth.
Dywed y ddau deulu y dylai meddygon fod wedi dilyn argymhellion a gwrthod yr arennau.
Ond fe ddywedodd un o lawfeddygon yr ysbyty, Argiris Asderakis, fod ysbytai’r DU yn aml yn derbyn organau gan gleifion sy’n peri risg uchel.
Yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf, mae 52 o gleifion oedd wedi’u heintio â llid yr ymennydd neu encephalitis wedi rhoi organau.