Daniel Craig a fydd yn chwarae James Bond yn Spectre
Mae manylion y ffilm James Bond diweddaraf wedi cael eu cyhoeddi, ac fe fydd y ffilmio’n dechrau’r wythnos nesaf.

Sam Mendes fydd yn cyfarwyddo ‘Spectre’, ac mi fydd Lea Seydoux a Monica Bellucci yn serennu fel ‘merched Bond’.

Daw’r teitl ‘Spectre’ o enw’r grŵp o frawychwyr sy’n ymddangos yn nofel Ian Fleming, ‘Thunderball’.

Bydd Christoph Waltz yn chwarae rhan y dihiryn, tra bydd Andrew Scott, oedd wedi chwarae rhan y cymeriad Moriarty yng nghyfres ‘Sherlock’ y BBC, yn un o benaethiaid Whitehall.

Yn unol â thraddodiad ffilmiau Bond, bydd yr Aston Martin yn chwarae rhan flaenllaw yn y ffilm, a’r model fydd yn cael ei ddefnyddio’r tro hwn yw’r DB10.

Cafodd yr Aston Martin DB5 ei ffrwydro yn y ffilm ddiwethaf, ‘Skyfall’.

Hon fydd pedwaredd ffilm Bond y prif actor Daniel Craig, yn dilyn ‘Casino Royale’ (2006), ‘Quantum of Solace’ (2008) a ‘Skyfall’ (2012).