Albwm newydd Plu, Holl Anifeiliaid y Goedwig
Fe fydd grŵp gwerin Plu yn lansio eu halbwm newydd o alawon i blant mewn Parti Nadolig yn siop Palas Print Caernarfon dydd Sadwrn.
Mae Holl Anifeiliaid Y Goedwig yn gasgliad o hen ganeuon cyfarwydd fel ‘Triawd y Buarth’ a ‘Mam wnaeth got i mi’ yn ogystal â rhai newydd gwreiddiol gan y band.
Bydd Dewi Pws ac Al Lewis hefyd yn perfformio fel rhan o adloniant y prynhawn yn y parti, gyda Gareth Ffowc Roberts a Russell Jones yno i drafod eu llyfrau diweddaraf.
Albwm i blant
Wedi ei anelu at blant yn bennaf y mae albwm newydd Plu, sydd wedi ei gyhoeddi gan Sain.
Ac fe esboniodd Gwilym Rhys, sydd yn aelod o’r grŵp gyda’i chwiorydd Elan a Marged, eu bod yn awyddus i ddewis caneuon – a thema – cyfoes i blant heddiw.
“Roedden ni’n meddwl bod yr albwm angen thema, ac felly bysa ‘anifeiliaid’ yn dda,” esboniodd Gwilym Rhys.
“Mae lot o’r hen ganeuon i blant yn sôn am hen bethau, hen bres a phethau fel hyn. Ond roedden ni eisiau’r albwm i fod yn gyfoes i blant heddiw – ac mae anifeiliaid yn rhywbeth sydd byth yn newid.
“Does ‘na ddim prinder o ganeuon [am anifeiliaid] felly roedd dewis y rheiny’n lot o hwyl!”
Fel y byddech chi’n disgwyl gan Plu, wrth gwrs, mae digon o gymysgu rhwng yr hen a’r newydd o fewn caneuon yr albwm hefyd.
“Mae rhai yn hen ganeuon, rhai’n hollol wreiddiol, a rhai lle mae’r alaw yn hen a’r geiriau’n newydd, neu lle mae’r geiriau’n hen a’r alaw yn newydd – lot o gyfuniadau,” meddai Gwilym Rhys.
“Mae’n iach cael caneuon ffres newydd, a newydd nid jyst i’r plant ond i’r rhieni hefyd.”
Sadwrn prysur
Plu fydd yn agor y prynhawn o adloniant ym Mharti Dolig Palas Print am 12.00yp drwy lansio Holl Anifeiliaid Y Goedwig.
Yna am 1.00yp fe fydd Dewi Pws Morris yn perfformio darn o Nadolig Gwyntog Rudolph, llyfr i blant y mae wedi’i addasu gyda Rhiannon Roberts.
Am 2.30yp fe fydd Gareth Ffowc Roberts yn lansio’i lyfr posau diweddaraf, Posau Pum Munud 2.
Bydd Russell Jones yn ateb cwestiynau am arddio am 3.30yp, gyda chyfle hefyd i flasu rysetiau Jen Jones o lyfr O’r Egin i’r Gegin.
Ac i gloi adloniant y prynhawn fe fydd Al Lewis yn chwarae rhai o ganeuon ei albwm diweddaraf Heulwen o Hiraeth yn fyw am 4.30yh.