Mae Gwasg Carreg Gwalch wedi cyhoeddi eu bod nhw’n argraffu rhagor o gopïau o nofel gyntaf Tudur Owen, Y Sw, oherwydd ei “hapêl eang iawn”.

Dim ond ar ddiwedd mis Hydref 2014 y cafodd y nofel gomedi ei hargraffu am y tro cyntaf.

Ers hynny, mae hi wedi cael ei disgrifio fel nofel “arbennig, hynod o wreiddiol” sy’n haeddu bod yn rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol.

Stori yw hi am fachgen ifanc sy’n byw ar fferm ar Ynys Môn yn 1980. Mae ei fywyd yn newid yn llwyr pan mae ei dad, sy’n amaethwr ac entrepreneur mentrus, yn manteisio ar gyfle i sefydlu sw ar y fferm.

Mae 1,000 o gopiau wedi eu hargraffu yn barod ac fe fydd 500 yn rhagor yn cael eu printio. Dywedodd Myrddin ap Dafydd, Cyfarwyddwr Gwasg Carreg Gwalch am y nofel:

“Mae adolygwyr eisoes yn pwysleisio bod hon yn nofel sydd ag apêl eang iawn iddi – mae rhai wedi chwerthin dros y bws neu dros y trên wrth ei darllen wrth deithio; mae Angharad Tomos am ei gweld ar y cwricwlwm uwchradd gan y gall bechgyn yn ei harddegau gael blas mawr arni yn ogystal.

“Am ei bod yn apelio – mae hi’n gwerthu. Dyna pam ‘da ni’n ailargraffu.”

Canmoliaeth

Ac mae’r awdur ei hun yn falch iawn o’r cyhoeddusrwydd mae’r nofel wedi ei gael yn barod.

“Wrth reswm dw i’n hapus iawn fod mwy o gopïau o’r nofel yn cael eu hargraffu”  meddai Tudur Owen.

“Dw i’n cymryd mai oherwydd ei phoblogrwydd ac nid oherwydd eu bod nhw wedi colli ambell i focs maen nhw’n gorfod gwneud hyn.”

“Un o’r gobeithion mwyaf oedd gen i wrth sgwennu’r nofel oedd y byddai’n apelio at gynulleidfa eang a dw i’n gobeithio fod hyn yn arwydd o hynny.

“Mae’r ychydig adolygiadau wedi bod yn ffafriol iawn hyd yn hyn a dw i’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi ei ddarllen ac sydd wedi canmol.”

Canmoliaeth

Mae’r blogiwr Elliw Gwawr yn un o’r rhain sydd wedi cael ei dal yn chwerthin yn uchel ar drafnidiaeth gyhoeddus wrth ddarllen y gyfrol.


Ac Angharad Tomos am ei gweld ar y Cwricwlwm mewn ysgolion