Rhodri Talfan Davies
Mae pennaeth BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies wedi dweud bod newyddion yn parhau’n gonglfaen darlledu’r Gorfforaeth yng Nghymru.

Daw ei sylwadau ar y diwrnod pan fo’r diwydiant darlledu wedi dod ynghyd ar gyfer cynhadledd i drafod y diwydiant yng Nghymru.

Mewn blog ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig, dywedodd fod newyddion yn bwysicach fyth yn yr oes ôl-ddatganoli.

“Mae’r penderfyniadau sy’n siapio’r ffordd y caiff ein gwasanaethau cyhoeddus eu cyflwyno yn cael eu gwneud ar ein tomen ein hunain – gan ein senedd ein hunain – felly mae’n hanfodol ein bod ni’n helpu’r cyhoedd i wneud synnwyr o’r datblygiadau hyn.

“Mae democratiaeth fywiog go iawn yn ddibynnol ar ddinasyddiaeth wybodus a gweithgar ac rwy’n credu bod ein gwasanaethau newyddion yn chwarae rhan amhrisiadwy wrth gyrraedd y nod.”

Dywedodd fod niferoedd gwylio Wales Today, prif raglen newyddion y BBC ar ei lefel uchaf ers degawd, ond bod y modd y mae’r genhedlaeth iau yn derbyn eu newyddion yn newid yn gyflym.

Ond cyfaddefodd fod “rhagor o waith i’w wneud” er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

Cymru

Dywedodd Rhodri Talfan Davies fod mwy o bobol yn deall gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig nag sy’n deall gwleidyddiaeth Cymru ar hyn o bryd.

Dywedodd mai hanner yn unig o’r rhai a gafodd eu holi oedd yn gallu nodi pa blaid sydd mewn grym yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Dim ond 31% oedd yn gallu nodi’n gywir mai Carwyn Jones yw Prif Weinidog Cymru.

Ychwanegodd fod BBC Cymru “wedi ymrwymo i helpu cynulleidfaoedd ym mhob rhan o Gymru i wneud synnwyr o’n cenedl ni ein hunain, ac i chwarae rhan lawn a gweithgar yn natblygiad ein democratiaeth ifanc.”