Terry Barry
Mae cenedlaetholdeb Albanaidd yn tyfu, ac mae hynny’n golygu fod yn rhaid i Gymru roi stop ar y begian yn ôl Terry Barry …
Mae’n debyg fod sawl un ohonom ni erbyn hyn wedi clywed, darllen a gweld hen ddigon am y refferendwm dros annibyniaeth yn yr Alban.
Nid fy mod i heb gael fy siomi gan y canlyniad – mae’n amlwg iawn mai lluoedd blaengar yn yr Alban fu wrth flaen y gad yn yr ymgyrch ‘Ie’.
Y materion ôl-refferendwm sy’n fy syrffedu, y cweryla a’r cecru gan arweinwyr San Steffan – mae’r ffaith bod rhai pobl yn yr Alban wedi llyncu chwedlau ac addewidion yr elîtiaid Llundain y tu hwnt i fy nealltwriaeth i, ond dyna fe.
Ond un peth sy’n dod yn amlwg, mae’n debyg y bydd rhyw ffurf ar annibyniaeth i’r Alban yn dod yn llawer cyflymach na mae rhai pobl yn awgrymu.
Gadwech i ni fod yn onest, gyda 45% o’r boblogaeth yn pleidleisio Ie, sydd yn cynnwys 71% o’r bobl ifainc rhwng 16-17 oed yn ôl un pôl a chanran uchel o’r boblogaeth ddi-waith a difreintiedig hefyd, ni chredaf y bydd y freuddwyd dros annibyniaeth yn tawelu yn yr Alban, yn wir bydd yn poethi.
Y rhesymau
Mae llawer o ddamcaniaethau ynglŷn â ffenomen cenedlaetholdeb.
Ac er nad ydw i’n eu credu ar y cyfan, dw i’n tueddu i gytuno â’r ysgolheigion sy’n honni bod pobl yn troi at genedlaetholdeb fel hunanamddiffyniad economaidd a gwleidyddol pan fyddwn nhw wedi colli popeth arall – dim byd rhagor i’w golli a phopeth i’w ennill.
Credaf fod hyn yn elfen bwysig yn y ffenomen o genedlaetholdeb Albanaidd sydd hefyd yn cyd-fynd â’r dyhead i greu cymdeithas decach a mwy cyfiawn.
Mae aelodaeth yr SNP wedi cynyddu dros 140% dros y dyddiau diwethaf ac erbyn hyn mae ganddyn nhw fwy o aelodau na’r Democratiaid Rhyddfrydol drwy Brydain i gyd. Hefyd mae’n ddigon posibl ein bod ni’n gweld tranc y Blaid Lafur yn yr Alban.
Ac ar ben hyn oll nawr mae Alex Salmond a rhai arweinwyr eraill yr SNP wedi dweud na fydd angen o bosib cynnal refferendwm arall er mwyn cyflawni’r nod o annibyniaeth – dim ond mwyafrif o aelodau SNP yn Senedd yr Alban ar ôl etholiadau Holyrood yn 2016 fydd angen i ‘ddatgan’ annibyniaeth.
Daeargryn Ewrop
Hefyd, credaf y daw rhyw drobwynt sydyn os bydd y Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad cyffredinol yn 2015 (tebyg iawn yn fy marn i – a oes gobaith gan y Blaid Lafur o dan Ed Miliband i ennill o ddifrif?), a chynnal refferendwm i’r DU gael gadael yr Undeb Ewropeaidd yn 2017.
Os bydd poblogaeth Lloegr yn pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd (tebyg iawn hefyd) tra bydd yr Alban yn pleidleisio i aros y tu fewn (a Chymru o ran hynny), bydd yn anodd iawn cadw’r undod Prydeinig ynghyd.
Hefyd, rhwng nawr ac unrhyw refferendwm yn 2017 bydd cynnydd UKIP yn esgor ar ryw ffurf o genedlaetholdeb Seisnig, a dw i’n siŵr mai methiant fydd yr ymdrechion i ddod i unrhyw setliad cyfansoddiadol o ran datganoli’n gyffredinol yn Lloegr a’r DU.
Fydd yr arweinwyr gwleidyddol Prydeinig byth yn fodlon aberthu eu buddiannau ar allor ffederasiwn go iawn. Felly ymhen ychydig o flynyddoedd mae’n debyg y cawn ni ryw ddaeargryn gwleidyddol anferth a fydd yn esgor ar ddatgymalu’r gwahanol rannau o Brydain am byth.
Peidiwch fegian, Cymru
Ac yn y cyfamser, gobeithio y bydd pobl Cymru’n ymbaratoi i gymryd rhan yn effeithiol yn y broses, a dim yn bihafio’n wasaidd a thaeogaidd, er enghraifft, trwy ofyn am gael ein gwobrwyo am beidio achosi problemau i’r Undeb Brydeinig (chwedl cyn-brif weinidog Cymru Rhodri Morgan yn sgil y refferendwm).
Hefyd bydd rhaid i Carwyn Jones fod yn llawer cryfach a phendant er mwyn osgoi troi’n rhyw lais yn yr anialwch na fydd hoelion wyth ei blaid yn Llundain yn gwrando arno fyth.
A plîs, plîs, gawn ni gael gwared am byth a’r Comisiwm Silk, Fformiwla Barnett a phopeth arall sydd yn drewi o friwsion pitw wrth i Gymru fynd i fegian oddi ar fwrdd Llywodraeth San Steffan.
Anodd credu y bydd derbyn consesiynau felly yn ein paratoi am y daeargryn sydd ar y ffordd.