Dau o ddisgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth mewn gwisg o'r cyfnod
Mae ysgol Gymraeg hynaf Cymru wedi trefnu llu o ddigwyddiadau ar gyfer ei pharti pen-blwydd yn 75 oed heddiw.

Cafodd Ysgol Gymraeg Aberystwyth ei sefydlu gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1939 a Norah Isaac, a oedd y brifathrawes bryd hynny.

Fel rhan o’r dathliadau bydd portread arbennig o Syr Ifan ab Owen Edwards, gafodd ei beintio yn y 50au, yn cael ei gyflwyno i’r ysgol.

Bydd côr yr ysgol yn perfformio ac fe fydd y gantores Georgia Ruth, sy’n wreiddiol o Aberystwyth, hefyd yn perfformio rhai o’i chaneuon.

Mae’r plant wedi cael cynnig gwisgo gwisgoedd o’r cyfnod fel rhan o’r dathliadau.

Torri tir newydd

Yn 1939, saith o ddisgyblion oedd yn yr ysgol, gyda phob un yn talu pedwar gini am addysg Gymraeg. Erbyn hyn mae mwy na 400 o blant yn mynychu’r ysgol.

Dywedodd Prys Edwards, mab Syr Ifan ab Owen Edwards, mai Ysgol Gymraeg Aberystwyth sy’n gyfrifol am ddechrau’r “rhwydwaith” o ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Ychwanegodd Prifathro’r ysgol, Clive Williams:

“Mae heddiw yn garreg filltir nodedig iawn.

“Hon oedd yr ysgol Gymraeg gyntaf, hon sydd wedi arwain y ffordd ac wedi torri tir newydd yng Nghymru.

“Fe wnaeth hi osod pethau mewn lle er mwyn i weddill yr ysgolion Cymraeg ddilyn yn y dyfodol.”