Aled Morgan Hughes
Aled Morgan Hughes sydd yn ystyried goblygiadau’r symudiad gwleidyddol tuag at UKIP …
Glywsoch chi erioed am Clacton? Er cywilydd i mi, mae’n rhaid cyfadde’ mae ddoe oedd y tro cyntaf i mi glywed am y lle – fy ngholled i dw i’n siŵr. Fodd bynnag, mae’n debyg y cawn glywed ddigon am y dref arfordirol hon dros y wythnosau a misoedd i ddod.
Pam? Wel i’r rhai ohonoch oedd yn byw o dan garreg dros y diwrnod diwethaf, daw’r holl sylw yn sgil penderfyniad Douglas Carswell (un o aelodau fainc gefn fwy Ewrosgeptig y Blaid Geidwadol) i adael y gleision er mwyn ymuno â Mr Farage a’i griw ym mhorffor a melyn UKIP.
Golygai ei benderfyniad y bydd Mr Carswell yn sefyll lawr o’i swydd fel Aelod Seneddol gan baratoi am isetholiad – gyda UKIP yn llyfu eu gweflau ar y cyfle i sicrhau eu AS cyntaf (nid oes cadarnhad eto os mai Carswell ei hun fydd yn sefyll dros UKIP neu beidio, gan nad yw’r ymgeisydd UKIP presennol yn hapus iawn â’r sefyllfa!).
Wrth gwrs, nid dyma’r tro cyntaf i UKIP geisio cipio sedd Seneddol ers eu buddugoliaeth ysgubol yn etholiadau Ewrop fis Mai. Yn isetholiad Newark fis Mehefin, gwelwyd ‘swing’ darbwyllol o 22.5% – gan lwyddo i gynyddu eu pleidlais o bron i 10,000 mewn nifer o’i gymharu â ffigwr 2010.
Etholaeth ddelfrydol?
Roedd hyn yn swydd Nottingham, ardal a ystyrir gan lawer i fod tu hwnt i’w ‘gardd gefn’ gefnogol. Does fawr syndod eu bod ar 17% yn y polau piniwn cenedlaethol diweddaraf ar gyfer etholiad 2015.
Er i Carswell ennill y sedd yn 2010 gyda 53% o’r bleidlais i’r Ceidwadwyr, mae’r sefyllfa yn Clacton ei hun yn edrych yn hynod ffafriol i UKIP.
Llwyddodd plaid Farage i ennill 48% o’r bleidlais yn etholiad mis Mai o fewn ardal Cyngor Tendering (ble mae Clacton) – bron i ddwbl ffigwr y Ceidwadwyr.
Mae’r ddemograffeg hefyd yn un sydd yn ffitio’r stereoteip pleidiol – 30% o’r boblogaeth dros 60 oed (o’i gymharu â chyfartaledd Prydeinig o 17%), a hyn oll ar eu ‘home turf’ yn Nwyrain Lloegr ble mae UKIP yn dal tair o’r saith sedd Ewropeaidd.
E ei bod hi’n ddyddiau cynnar mae’n edrych fel petai nifer o fysedd yn pwyntio tuag at y posibilrwydd byw iawn y gall yr agoriad hwn arwain tuag at y Sedd Seneddol UKIP y maent yn ei grefu cymaint.
Cur pen i Cameron
I Cameron a’r Ceidwadwyr, gall ymadawiad Carswell brofi i fod yn ergyd ar sawl lefel. Yn gyntaf fe fydd unrhyw ymadawiad proffil uchel o’r fath ond yn gwneud drwg i ymgais Cameron o sicrhau ymddangosiad unedig i’w blaid – yn enwedig gydag Etholiad Cyffredinol yn prysur agosáu.
Mae’r cam hefyd wedi rhoi rhyw hwb hyder i UKIP unwaith yn rhagor – er eu canlyniad syfrdanol fis Mai, maent wedi tawelu yn sylweddol yn y wasg yn ddiweddar, ac fe fydd Farage yn sicr yn croesawu’r fath gyhoeddusrwydd.
Fodd bynnag, y bwgan mwyaf i Cameron yn amlwg yw’r bygythiad byw iawn i’r Ceidwadwyr golli meddiant o sedd Clacton.
Yn ogystal â bod yn hwb amhrisiadwy i UKIP dim ond ychydig fisoedd cyn etholiad 2015, mae posibilrwydd byw iawn y gallai Cameron wynebu chwyldro byw iawn gan aelodau mwy eithafol o’i rengoedd cefn.
Gydag Carswell o bosib yn dychwelyd i’r Tŷ dan liwiau Ewrosgeptig UKIP, fe allai nifer o aelodau Ceidwadol rhwystredig eraill ddilyn llwybr tebyg iddo.
Effaith ar yr Alban
A beth am ein cyfeillion yn yr Alban? Amhosib yw osgoi unrhyw stori wleidyddol y dyddiau hyn heb feddwl am oblygiadau posib ar y refferendwm hollbwysig, yn enwedig gyda’r ymgyrch ‘Ie’ a ‘Na’ bellach wddf wrth wddf yn y polau.
Mae’n sicr na gaiff yr isetholiad ei gynnal tan fod canlyniad y refferendwm wedi’i gadarnhau.
Ond yn y tymor byr fe allai ymadawiad Carswell wthio Cameron yn bellach ar hyd y llwybr Ewrosgeptig, ac felly cynyddu’r posibilrwydd o Brydain yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Fe fyddai hyn yn brawychu nifer o drigolion yr Alban (y rhanbarth ble enillodd UKIP ei chanran isaf fis Mai), gyda gweledigaeth Salmond o Alban annibynnol ond dod yn fwyfwy apelgar fel yr unig opsiwn i sicrhau parhad o fewn yn yr UE.
Mae dyddiau difyr ar y gorwel …
Mae Aled Morgan Hughes yn fyfyriwr yn adran Wleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Gallwch ei ddilyn ar Twitter ar @AledMorganH.