Mae Cymraes wedi bod yn siarad gyda’r cyfryngau am ddyn arfog wnaeth ymosod arni ar stryd ym Morocco, bedwar niwrnod wedi iddi gyrraedd yno i wneud gwaith gwirfoddol.

Roedd Naomie Greenslade, 22, o Fargoed, wedi cael gwaith mewn cartre’ i blant amddifad yn ninas Marrakech.

Roedd hi ar ei ffordd gartre’ o’i gwaith ar ei phedwerydd niwrnod pan ymosododd dyn arni gydag arf miniog.

Mae’r ferch yn disgrifio’r llafn “fel un cigydd”, ac fe achosodd glwy’ mawr yn ei chlun.

Mae dyn lleol wedi’i arestio ym Morocco ar amheuaeth o geisio llofruddiaeth.