Gareth Thomas
Mae’r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol, Gareth Thomas, wedi lawnsio ymgyrch newydd yn erbyn bwlio mewn ysgolion.

Bydd yn ymweld ag ysgolion ledled Cymru ac yn siarad â disgyblion am ei brofiadau.

Yn ystod ei yrfa fel chwaraewr rygbi, fe wnaeth Gareth Thomas, 40, gyhoeddi ei fod yn hoyw ac mae’n dweud ei fod wedi dioddef o fwlio ar hyd ei fywyd:

“Fase pawb ddim yn credu o edrych arna i – dw i’n ddyn eithaf mawr – ond mae bwlio wedi bod yn rhan yn fy mywyd i, pwy ydw i ac o le ydw i’n dod.

“I mi, fe all bwlio fod i’w wneud ag agwedd negyddol – unrhyw sy’n sefyll yn eich ffordd gan ddweud na allwch chi wneud rhywbeth.

“Mae lot o hynny wedi bod yn fy mywyd, pobol oedd eisiau i mi fethu.”

Hyfforddiant

Yn wreiddiol o Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr, mae Gareth Thomas yn cefnogi’r ymgyrch sy’n cael ei redeg gan Prospero Teaching. Mae’n cael ei anelu at ddisgyblion sy’n symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd am y tro cynta’.

“Rwy’n gobeithio y bydd plant diniwed yn sylweddoli mod i, fel chwaraewr mewn gem galed, hefyd wedi diodde’,” meddai Gareth Thomas.

“Rwy’ i am geisio dileu’r stigma mae rhai plant yn ei deimlo, a’u helpu i drechu eu hofnau a dweud wrth rywun os ydyn nhw’n cael eu bwlio.

“Mae fy mhrofiadau i’n dangos nad yw cael eich bwlio yn golygu eich bod yn berson gwan.”

Mae arolwg gan Prosperio yn dangos nad yw 73% o athrawon wedi cael hyfforddiant ar sut i ddelio gyda bwlio ymysg disgyblion sy’n newid o ysgol gynradd i ysgol uwchradd.