Mae cwmni teithiau awyr Malaysia Airlines wedi cyhoeddi 6,000 o ddiswyddiadau, sef tua 30% o’r gweithlu cyfan.

Nod y diswyddiadau yw ceisio adfer enw da’r cwmni yn dilyn sawl damwain eleni.

Diflanodd awyren 370 yn ystod taith rhwng Kuala Lumpur i Beijing ar Fawrth 30 tra’n cludo 239 o bobol.

Fis diwethaf, cafodd 298 o bobol eu lladd pan gafodd awyren 17 ei saethu o’r awyr tra’n hedfan tros ran o ddwyrain yr Wcráin.

Mae disgwyl i lywodraeth Malaysia reoli’r cwmni’n llwyr o hyn ymlaen, yn dilyn y penderfyniad i brynu’r 31% o gyfranddaliadau nad oedd yn berchen arnyn nhw eisoes.