Bum niwrnod cyn i Uwch-gynhadledd NATO gael ei chynnal yng Nghasnewydd, mae ymgyrchwyr o’r grŵp No NATO wedi sefydlu gwersyll heddwch ar gaeau Parc Tredegar.

Mae disgwyl i’r ymgyrchwyr fod yno am wythnos ac yfory fe fydden nhw’n gorymdeithio o amgylch dinas Casnewydd i ddangos eu gwrthwynebiad i’r sefydliad milwrol, NATO.

Fe fydd protest arall yn cael ei chynnal y tu allan i Westy’r Celtic Manor ar 4 Medi, diwrnod cynta’r gynhadledd ddeuddydd, lle bydd ymgyrchwyr yn gwisgo pinc.

Nid oes cadarnhad faint o bobol fydd yn y gwersyll heddwch, ond honnir bod bysiau wedi eu trefnu i gludo protestwyr o Lundain, Birmingham, Norwich a Newcastle.

Yn ôl Cyngor Casnewydd, mae’r protestwyr wedi addo i weithredu’n heddychlon ac na fydd y gwersyll yn amharu ar weithgareddau arferol Parc Tredegar.

Ar wefan y grŵp No NATO, dywedir: “Mae cymunedau anghenus yn colli arian wrth ariannu rhyfeloedd.

“Bydd lleisiau’r pwerus yn cael eu clywed yn y gynhadledd NATO. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod lleisiau’r miliynau o gwmpas y byd sydd angen cyfiawnder a heddwch yn cael eu clywed hefyd.”

Trefniadau

Bydd tua 150 o arweinwyr byd ymgasglu yn y Celtic Manor o 4-5 Medi.

Yn ystod y gynhadledd, bydd rhannau o ddwy lon yng Nghasnewydd, Ffordd Catsash a Ffordd Bulmore, ar gau tra bydd bob llwybr troed sy’n mynd yn agos at Westy’r Celtic Manor hefyd yn cael eu cau i’r cyhoedd.

Yng Nghaerdydd ac ar hyd yr M4 bydd tua 13 milltir o ffensys yn cael eu codi o amgylch safleoedd strategol fel Parc Bute, canol y ddinas ac ardal y Bae.

Disgwylir i tua 9,500 o blismyn fod ar ddyletswydd.