Mae’r Prif Weinidog newydd wedi hawlio’r penawdau gydol ei yrfa wleidyddol ifanc hyd yma. Anghofiwn ni am fater bach o rodd budr gan gwmni amgylcheddol fu’n dympio gwastraff gwenwynig ar safle ecobwysig Gwastadeddau Gwent; neu’r sylw a gafodd adeg y pandemig – y naill am regi ar gyd-aelod mewn cyfarfod cyhoeddus ar Zoom, a’r llall am gael ei weld yn sglaffio sgod a sglods efo’i deulu yn y Bae pan oedden ni’r werin datws i fod i osgoi loetran yn gyhoeddus.
“CHIPOCRISY! Labour health minister tucks into chips at picnic table after urging Brits to ‘stay home and save lives’,” sgrechiodd tudalen flaen y Sun ar y pryd.
Does dim dwywaith fod dyrchafiad diweddar Humphrey Vaughan ap David Gething wedi ennyn sylw cadarnhaol iawn ym mhedwar ban byd. “Europe’s First Black Head of Government” oedd broliant y New York Times, fel sawl cyhoeddiad arall megis Der Spiegel, La Repubblica, Sydney Morning Herald a Folha de S.Paulo. Mae hynny, a’r ffaith fod enw’r ‘Senedd’ wedi’i hybu o’r Almaen i Frasil, yn ardderchog.
Ond pennawd anffodus arall yn nes adra ydi’r ffaith fod gennym Brif Weinidog di-Gymraeg am y tro cyntaf ers sefydlu llywodraeth Caerdydd chwarter canrif yn ôl. Rydan ni wedi’u cymryd nhw mor ganiataol ers i Alun Michael gymryd yr awenau fel Prif Ysgrifennydd y Cynulliad ar Fai 12, 1999. Buodd yntau, Rhodri Morgan, a Carwyn Jones wedyn, yn gyfranwyr rheolaidd i’r cyfryngau Cymraeg. Llwyddodd Mark Drakeford i hyrwyddo a normaleiddio ein hiaith ymhlith cynulleidfaoedd tipyn ehangach adeg cythrwfl Covid – wrth i sianeli BBC News 24 a Sky News hyd yn oed ddarlledu’i gynghorion dwyieithog byw yn rheolaidd. Dyna’r norm ar dir mawr Ewrop. Mae arweinwyr seneddau datganoledig eraill, o Pere Argonès Catalwnia, Íñigo Urkullu Gwlad y Basg a Jon Jambon Fflandrys, yn rhoi eu heithoedd lleiafrifol nhw ar waith bob dydd.
Wrth gwrs, byddai llawer yn dadlau bod profiad ac arbenigedd rhywun lawn mor bwysig. Does dim modd amau CV Mr Gething. Yn sgolor o Aber a Chaerdydd, bu’n dwrnai a chyn-lywydd sawl undeb, o’r TUC i Undeb y Myfyrwyr. Ac eto, mae dadl gref dros gael gwladweinydd dwyieithog mewn llywodraeth sy’n rhoi cymaint o fri ar darged miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Tydi’r Ysgrifennydd Addysg newydd o Dor-faen, Lynne Neagle, ddim yn medru’r iaith chwaith. O leiaf mae gan y ffarmwrs Gymro Cymraeg yn Huw Irranca-Davies, ac mae Jeremy Miles yn gwbl hyddysg a bellach yn Ysgrifennydd yr Economi, Ynni a’r Gymraeg. A dyna ni. Gyda’r Farwnes Eluned Morgan, yn gam neu’n gymwys, wedi cadw’r portffolio Iechyd, tri aelod Cymraeg eu hiaith sydd mewn cabinet o 14.
Mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion S4C ar Fawrth 17, fe ymrwymodd Vaughan Gething i ddal ati, “carrying on being a dysgwr in the First Minister’s Office” gyda help ei fab ifanc. Croesi bysedd, felly, ac y caiff ddigon o gymorth ac anogaeth i ddefnyddio’r Gymraeg bob yn dipyn yn rhinwedd swydd mor gyhoeddus. Felly hefyd Lynne Neagle AS, fel bod dau mor allweddol yn cael eu dwyn i gyfri’n gyson ar S4C a Radio Cymru, yn lle gorfodi Bethan Rhys Roberts neu Kate Crockett i ddarllen cyfieithiadau stoc gan ryw SpAd neu’i gilydd.