Hoffwn gael cipolwg ar bapurau newydd y dydd, a chylchgronau’r wythnos, a meddwl am yr hyn sydd ddim ynddyn nhw.

Dydy’r Sun heddiw ddim yn cynnwys photo-feature am y mwyafrif llethol o bobol sydd yn hapus ddigon i gadw eu dillad yn dwt amdanyn nhw.

Dydy’r Daily Express ddim yn datgan fod bywyd teuluol, er gwaethaf bygythiadau a thensiynau dirifedi, yn parhau’n syndod o iach.

Dydy’r Daily Mail ddim yn canmol ein pobol ifanc, y rhan fwyaf helaeth ohonyn nhw mewn perygl enbyd o dyfu a datblygu i fod yn bobol eithriadol o dda, ac yn aelodau cydwybodol a gweithgar o gymdeithas.

Dydy’r Morning Star ddim yn sôn am y cyfalafwr sydd yn talu cyflog teg i’w weithwyr ac sydd yn codi pris teg am ei nwyddau.

Dydy rhifyn yr wythnos hon o Horse & Hound ddim yn cynnwys erthygl yn dwyn y pennawd: “Hunting: The Fox’s point of view“.

Nid “Money isn’t everything” yw prif bennawd y Financial Times heddiw.

Fydd Cris Dafis ddim yn sgwennu pwt bach yn Golwg am fendith crefydd, gwerth yr Eisteddfod Genedlaethol, na rhinweddau Cymry Cymraeg Caerdydd.

Dydy’r Telegraph ddim yn sôn am y giang o laslanciau croenddu nad oedden nhw yn crwydro strydoedd Islington neithiwr yn chwilio am drwbwl, gan eu bod nhw’n hytrach wedi ymgynnull yn eu canolfan ieuenctid lleol i godi arian tuag at Ymchwil Cancr.

Dydy’r cylchgrawn Men’s Health yr wythnos hon ddim yn datgan mai cyfrinach dedwyddwch yw derbyn eich gor-fol-edd.

Dydy Cosmopolitan ddim yn datgan yr wythnos hon nad oes yn rhaid i berson fod yn denau fel rhaca i fod yn ddeniadol.

Does yna’r un o’r papurau a chylchgronau hyn yn sôn heddiw fod Iesu’n fyw; fod ei gariad ar gael i bawb sy’n dyheu am faddeuant, iachâd, a chymorth i fyw. Bydd yn rhaid i bobol ddarllen y newyddion da hynny ar dudalen flaen bywyd y bobol sydd yn arddel ei enw – dyna her arswydus, fawr y Pasg.