Bu Golwg yn sgwrsio gyda phennaeth y sefydliad yn dilyn y newyddion am y twll mawr yn ei goffrau…

Ym mis Rhagfyr, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod am osod toriad ariannol o 10.5% ar gyrff celfyddydol yng Nghymru, yn rhan o’i chyllideb ddrafft ar gyfer 2024 i 2025, er mwyn blaenoriaethu gwariant ar iechyd.