Mae gan berchnogion Crefft Migldi Magldi syniadau pendant ar gyfer eu busnes newydd…

Mae dwy grefftwraig ifanc yn dod â bywyd newydd i hen efail yng Nghaernarfon.

Menter newydd Tesni Calennig ac Angharad Jones ydy Crefft Migldi Magldi, ac mae’r ddwy newydd agor gweithdy ac oriel yn yr adeilad hanesyddol yng Nghei Llechi.