Pethau syml i’r cartref megis llwyau, powlenni a phlatiau y mae David White yn eu cerfio yn ei stiwdio ym mhentref Llandyrnog yn Sir Ddinbych. Ac erbyn hyn, mae ei waith i’w weld ar fyrddau rhai o fwytai enwocaf Cymru, Lloegr a’r Alban…
Y cogydd adnabyddus Gareth Ward o fwyty seren Michelin arobryn Ynyshir ger Machynlleth wnaeth blannu’r syniad ym mhen David White y gallai gael gyrfa yn gwneud gwaith coed.
Dylunio graffeg oedd ei fara menyn ar y pryd ond roedd wedi dechrau tynnu lluniau o fwyd er mwyn gallu cynnig gwasanaeth cyflawn wrth greu gwefannau a brandio i nifer o fwytai, fel yr eglura.
“Ro’n i’n gwneud gwaith i Ynyshir a dyma Gareth [Ward] yn gweld rhai o’r llwyau pren ro’n i wedi cerfio fel props ar gyfer y shoot. A dyma fo’n gofyn yn syth: ‘Lle ges di’r rhain?’
“A wnes i egluro bo fi wedi gwneud nhw, a wnaeth o ddweud: ‘Dw i eisiau nhw.’
“A dyna sut wnes i ddechrau gwneud pethau i Ynyshir cyn iddyn nhw ennill eu seren Michelin, ac wedyn dyma gogyddion eraill yn dechrau gofyn am lwyau a phlatiau ac ati. Ges i gymaint o fwytai yn gofyn am fy ngwaith coed, fyswn i wedi gallu clonio fy hun a chael tri ohona’ i!”
Erbyn hyn mae ei waith pren i’w weld mewn bwytai yng Nghymru, Llundain a Chaeredin – “y math o lefydd sydd â delwedd arbennig lle maen nhw’n defnyddio gwaith serameg sydd wedi’i wneud â llaw a llawer o bethau naturiol. Dw i’n gorfod meddwl am syniadau newydd drwy’r amser, sy’n hynod o gyffrous,” meddai’r crefftwr a gafodd ei fagu ym Mae Colwyn cyn symud i Loegr ar ôl graddio i weithio yn ddylunydd graffeg.
Dysgu’r grefft
Yn fuan ar ôl i’w mab gael ei eni 15 mlynedd yn ôl fe benderfynodd David a’i bartner symud yn ôl i Gymru.
“Roedden ni jest yn teimlo ein bod ni eisiau bywyd ychydig tawelach. Roedd fy nhad wedi symud o gwmpas lot pan o’n i’n blentyn a ro’n i eisiau i’n mab gael magwraeth fwy sefydlog,” eglura.
Gwaith coed oedd ei gariad cyntaf ers yn hogyn ifanc a “taswn i wedi cael dewis mae’n siŵr mai dyna beth fyswn i wedi gwneud – ond roedd gan fy rhieni syniadau eraill!”
Gan fod dodrefn flat-pack yn hynod o boblogaidd yn y cyfnod hwnnw, roedd y syniad o greu darnau o ddodrefn unigryw fyddai’n costio dipyn mwy yn “wallgof” ar y pryd, meddai. Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r rhod wedi troi ac mae’r galw am nwyddau unigryw i’r cartref sydd wedi cael eu gwneud â llaw wedi cynyddu’n aruthrol.
Gyda choed yn amgylchynu ei gartref yn Llandyrnog, fe benderfynodd David fynd ar nifer o gyrsiau yn lleol i ddysgu’r grefft o gerfio pren. Ar ôl dwy flynedd roedd wedi gwneud pob cwrs oedd ar gael. Bellach mae trin coed yn waith llawn amser iddo gyda’r cerfio a’r creu yn digwydd mewn dwy stiwdio fach yn yr ardd gefn. Mae hefyd yn cynnal gweithdai yn Wernog Wood ger Rhuthun sy’n cynnal pob math o gyrsiau crefftau.
Roedd darganfod y gallai ddefnyddio glasbren – darnau o goed sydd heb gael eu sychu dros amser ac sy’n dal yn “wlyb” – wedi ysbrydoli pob math o syniadau. Mae David yn defnyddio technegau traddodiadol ac yn cerfio’r llwyau â llaw. Mae eitemau mwy, fel bowlenni, yn cael eu gwneud ar durnen Siapaneaidd (Japanese lathe) sy’n cael ei phweru gydag ynni solar.
Coed sydd wedi cwympo yn y coetiroedd ger ei gartref mae’n eu defnyddio yn ei waith a’r ffefryn yw’r ffawydden – “mae’n hyfryd i gerfio”.
Mae newydd ddechrau gwneud dodrefn – “sydd ychydig yn fwy arbrofol” – o brysgoed, gan ei fod yn gynaliadwy, a fydd yn cael ei arddangos mewn oriel yn fuan.
Derw’r chwareli
Prosiect diweddar oedd creu eitemau o dderw oedd wedi bod yn llechu dan ddaear yn chwarel Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog ers dros 100 mlynedd. Cafodd David ganiatâd gan y perchnogion i ddefnyddio’r derw.
“Mae dod â darn o dderw i fyny o’r chwarel, sydd wedi bod dan ddŵr ers yr holl flynyddoedd, yn rhywbeth go arbennig. Mae derw yn reit wydn ac mae’n haws gweithio efo’r pren pan mae’n wlyb. Mae bod dan ddŵr ers yr holl amser yn rhoi lliw arbennig iawn i’r pren.”
Creu llwy bob wythnos am flwyddyn
Prosiect arall a ddaeth o’r cyfnod clo oedd creu e-lyfr, 52 Spoons, gyda saer coed arall ym mhen draw’r byd yn Oregon yn yr Unol Daleithiau, fel yr eglura David.
“Ro’n i wedi bod yn cynnal gweithdai yn yr ŵyl Good Life ym Mhenarlâg ac yn ystod y cyfnod clo, wnaeth perchennog yr ystâd, Charlie Gladstone, ddweud ei fod eisiau cefnogi 50 o weithwyr llawrydd drwy’r cyfnod clo.
“Wnes i ddweud wrtho fy mod i’n hoffi’r syniad yn fawr ond yn lle cael pres, fyddai’n bosib i fi gael coeden yn lle? Es i yno a chael coeden, ac wedyn cymryd rhan mewn prosiect o greu 50 powlen mewn 50 diwrnod. Roedd pawb adre’n gwylio’r cyfryngau cymdeithasol ac roedd y fideos yn boblogaidd iawn. Wedyn wnes i benderfynu fy mod i eisiau gwneud rhywbeth gyda phobl sy’n cerfio glasbren – mae yna rwydwaith o bobl sy’n ymestyn dramor, ac un o’r rheiny oedd Andreea Grad yn Oregon. Fe awgrymodd rhywun ein bod ni’n gwneud prosiect o greu llwy bob wythnos am flwyddyn.
“Dim ond fi ac Andreea oedd wedi llwyddo i orffen y prosiect ac wedyn dyma oriel Found yn Aberhonddu yn cynnal arddangosfa o’r llwyau. Daeth Andreea draw o Oregon ar gyfer y digwyddiad ac roedd yn lot o hwyl. Roedd gynnon ni’r holl luniau hyfryd yma o lwyau ac o hynny daeth y syniad o greu e-lyfr.”
O ganlyniad i hynny, mae cwmni cyhoeddi mawr wedi gofyn iddo greu llyfr yn dangos sut i wneud llestri bwrdd cyfoes o bren, prosiect “hynod gyffrous” a fydd yn dwyn ffrwyth dros y ddwy flynedd nesaf.
“Beth sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf ydy bod yr holl sgiliau yma sydd gen i – y gwaith coed, ffotograffiaeth, ysgrifennu, creu gwefannau, a dylunio – wedi dod at ei gilydd i ganiatáu i fi wneud rhywbeth dw i’n caru gwneud. Dyma ydy fy swydd ddelfrydol i – fyswn i’n hapus yn gwneud hyn am weddill fy mywyd.”
Bydd gwaith David White i’w weld yn Oriel Glasfryn yng Nghaerwys yn yr wythnosau nesaf.
Mae hefyd wedi arddangos ei waith yn Galeri Caernarfon, Oriel Davies Y Drenewydd, StudioMADE yn Ninbych, ac Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin.
www.thewhittlings.co.uk